Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn dilyn ymrwymiad a wnaethpwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mai 2015, yn ystod trafodaethau am grwpiau nad ydynt yn derbyn cynrychiolaeth ddigonol, cynigais wneud datganiad am rhywfaint o'r gwaith y mae fy Adran i yn ei wneud i drechu tlodi.
Mae perthynas glir rhwng twf economaidd, swyddi a threchu tlodi. Mae cyflogaeth sicr, sy'n talu'n dda ac sy'n gynaliadwy, yn cynnig ffordd allan o dlodi a sicrwydd yn ei erbyn, nid yn unig i'r unigolyn, ond hefyd i'r rhai sy'n ddibynnol arnynt ac yn wir i'r gymuned yn ehangach.
Mae cefnogi swyddi ledled Cymru felly yn allweddol i fynd i'r afael â'r agenda dlodi, ac rwy'n ysgogi amrywiol gamau i helpu i greu swyddi a'u cadw. Rwyf hefyd yn cymeryd camau i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n ei gwneud yn anodd i bobl fanteisio ar gyfleodd, gan gynnwys gofal plant a threfniadau gweithio hyblyg. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys dau brosiect peilot i nodi anghenion a gallu lleol, ac yn profi cymorth busnes pwrpasol ar gyfer y sector gofal plant presennol.
Mae'n bwysig ein bod yn cymeryd camau i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i sicrhau gwaith, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Rydym yn gweithio gyda'r cwmnïau angori i gynllunio digwyddiad i hyrwyddo rhaglenni cyflogadwyedd. Bydd hwn yn gyfle pwysig i dynnu sylw at amrywiaeth eang o fentrau i fusnesau, ac i edrych ar y posibiliadau o ran a all y sector preifat gefnogi mentrau fel Rhaglen Esgyn (Taclo Aelwydydd heb Waith).
- Rydym wedi sefydlu Rhaglen Gyflogaeth Cwmnïau Angori ar gyfer Awtistiaeth (ACAEP), sy'n rhannu manteision cyflogi pobl sydd â Chyflyrau y Sbectrwm Awtism (ASC). Mae'r Rhaglen yn rhoi hyfforddiant o fewn cwmnïau angori i godi ymwybyddiaeth pobl o awtistiaeth, ac yn nodi cyfleoedd penodol ar gyfer unigolion, gan gynnwys prentisiaethau, profiad gwaith, cyflogaeth agored a hyfforddiant.
- Gan weithio gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), rydym yn darparu'r rhaglen Dyfodol Adeiladu yn Nghymru (CFW). Drwy weithio ar y rhaglen, mae lefel ymrwymiad sefydliad i groesawu amrywiaeth yn y gweithlu wedi'i gadarnhau. Hefyd, mae gwaith yn cael ei wneud gyda'r CITB i dargedu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y sector adeiladu. Y bwriad yw hybu adeiladu fel diwydiant sy'n ddeniadol, yn enwedig i fenywod, ac i roi cymorth ymarferol megis bwrsariaethau i unigolion.
- Rydym wedi ystyried grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystod proses gaffael Busnes Cymru, i recriwtio entrepreneuriaid i fod yn esiampl newydd i ysbrydoli pobl ifanc a sicrhau bod y rhwydwaith esiamplau yn cynrychioli demograffeg Cymru. Caiff contractwyr eu hannog i recriwtio entrepreneuriaid o safon uchel o bob sector, sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cymeryd rhan a sicrhau bod y rhwydwaith yn amrywiol i herio canfyddiadau yn broactif a sicrhau bod mwy o grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol yn cymeryd rhan mewn entrepreneuriaeth.
- Mae Prosiect Sirolli EFFECT, sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd ym Mlaenau Gwent, Merthyr, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr a gogledd Powys, yn cefnogi menter, entrepreneuriaeth a hunan-gyflogaeth fel dewis arall ymarferol i waith i bobl o'r gymuned leol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi grwpiau lleiafrifol i sicrhau'r adnoddau a'r parodrwydd i ddechrau eu menter eu hunain.
- Rydym hefyd wedi gweithio gyda Ymddiriedolaeth y Tywysog, gan ddarparu cyllid grant i prosiect sy'n cael ei dargedu yn Abertawe i ddarparu hyfforddiant a lleoliadau gwaith yn y sector manwerthu i bobl ifanc sy'n bwy mewn cartrefi heb waith. Drwy'r cynllun hwn, rydym wedi gallu rhoi cymorth dwys i grŵp sy'n anodd ei gyrraedd, gan fynd i'r afael â'u hanghenion penodol a'r rhwystrau i ddatblygu mewn dull pwrpasol.
- Drwy flwyddyn beilot o Ardaloedd Arloesi, yr ydym yn sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr ymyraethau diwylliannol mwyaf effeithiol ar gyfer ardaloedd sy'n flaenoriaeth allweddol, gan gynnwys cyrhaeddiad addysgol, sgiliau a iechyd. Bydd rhain yn canolbwyntio ar helpu pobl, unigolion, teuluoedd a chymunedau ymgysylltu â threftadaeth a diwylliant i gefnogi dysgu a datblygu sgiliau pwysig.
- Rydym yn buddsoddi i ddaparu system drafnidiaeth fwy fforddiadwy ac effeithiol i wella cysylltedd a rhoi cyfle i fanteisio ar gyfleoedd. Er enghraifft, byddwn yn cyflwyno cynllun tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc o fis Medi 2015, a fydd yn gostwng prisiau i bobl ifanc i'w helpu i ddod o hyd i waith, addysg a hyfforddiant.
Mae'r gweithgareddau hyn a gweithgareddau eraill yn cael eu datblygu gan fy Adran ac maent yn cael effaith gwirioneddol ar unigolion a chymunedau, ac yn cefnogi ein camau gweithredu fel Llywodraeth i drechu tlodi.