Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2003, cyflwynwyd Menter Nofio am Ddim fel cynllun peilot er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl dros 60 oed gael nofio am ddim, ac fe’i ehangwyd i roi’r un cyfleoedd i blant a phobl ifanc o dan 16 oed yn ystod y gwyliau ysgol. Yn 2007, gwnaed y fenter yn rhaglen genedlaethol, ac ers hynny mae wedi derbyn cyllid blynyddol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Caiff y cynllun ei reoli gan Chwaraeon Cymru a’i roi ar waith gan bartneriaid awdurdodau lleol.


Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol bod adolygiad o Fenter Nofio am Ddim wedi’i gynnal yn 2014 - 2015 gan weithgor a oedd yn cynnwys Chwaraeon Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol. Roedd yr adolygiad hwn yn ystyried a ellid gwneud y fenter yn fwy effeithiol ac yn fwy cydnaws â pholisïau Llywodraeth Cymru ar iechyd a gweithgarwch corfforol. Mae’r dystiolaeth yn dangos, er bod nifer y bobl dros 60 oed sy’n manteisio ar y fenter wedi cynyddu’n gyson, fod nifer y plant wedi dirywio. Roedd nifer y plant a oedd yn talu i nofio wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Roedd adroddiad yr adolygiad yn tynnu sylw at nifer o faterion ac yn argymell nifer o newidiadau. Er enghraifft canfu nad oedd o leiaf 25% o blant Cymru yn gallu nofio 25 metr erbyn eu bod yn 11 oed. Roedd yr adolygiad yn argymell y dylai’r fenter ganolbwyntio’n fwy ar addysgu’r plant i nofio, yn hytrach na rhoi amser iddynt yn y pwll yn unig yn ystod y gwyliau ysgol.


Wedi ystyried argymhellion yr adolygiad, gofynnais i’r gweithgor wneud newidiadau i fformiwla cyllid Nofio am Ddim sy’n pennu dyraniadau, a hynny er mwyn adlewyrchu’n well raddau’r amddifadedd cymdeithasol-economaidd ym mhob ardal awdurdod lleol. Rydym yn gwybod bod y rheini sy’n dod o gefndir difreintiedig yn llai tebygol o allu nofio, a bod methu nofio yn lleihau cyfleoedd bywyd plentyn ac yn cyfrannu at broblemau anghydraddoldeb iechyd. Rwyf felly wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol ledled Cymru i roi gwybod iddynt y bydd Chwaraeon Cymru yn dilyn fformiwla cyllid Setliad Refeniw Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol personol plant a phobl ifanc wrth gyfrifo cyllid Nofio am Ddim yn 2015-2016. Bydd hyn hefyd yn gweithio’n well o ran agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru.  

Mae hwn yn gyfnod anodd ac mae angen inni ystyried yn fwy gofalus sut i sicrhau gwerth yr arian a fuddsoddwn yn ogystal â’r hyn rydym am ei gyflawni drwyddo. Bydd dilyn fformiwla cyllid Setliad Refeniw Llywodraeth Leol Cymru yn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol mwy, a bydd yn arddangos ein penderfyniad i leihau tlodi ac effeithiau amddifadedd. Wrth gwrs, bydd rhai awdurdodau lleol yn gweld cynnydd yn eu dyraniad ar gyfer Nofio am Ddim, a bydd eraill yn gweld gostyngiad, ond nid oes un awdurdod wedi colli ei gyllid yn llwyr ar gyfer y fenter yn sgil y polisi cyllid newydd hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cyllid sylweddol tuag at Nofio am Ddim. Ein ffocws newydd yw sicrhau bod pob plentyn yn gallu nofio, beth bynnag ei amgylchiadau cymdeithasol neu ei gyfoeth.