Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Fel Llywodraeth rydym yn ymegnïo’n barhaus i glywed barn y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu i oleuo’r penderfyniadau a wneir gennym. Weithiau gall fod yn her cysylltu â’n cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio’n fwy a phleidleiswyr y dyfodol. Dyma pam ein bod yn rhoi cyllid i Cymru Ifanc, llwyfan cyfranogi cenedlaethol ac annibynnol, i alluogi cannoedd o blant a phobl ifanc i gyfranogi, i gael eu clywed ym mhrosesau’r Llywodraeth ac i ddylanwadu ar ein deddfwriaeth, ein polisïau a’n rhaglenni.
Mae Cymru Ifanc yn gweithio gyda grwpiau ieuenctid, fforymau ieuenctid a chynghorau ieuenctid presennol i gasglu eu llais ar y cyd i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisïau a rhaglenni. Mae hefyd yn gweithio i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd plant a phobl ifanc sydd wedi’u hymyleiddio, sy’n swil, yn ddifreintiedig, yn ddihyder, neu sydd ar wahân, gan eu galluogi hwythau hefyd i fod â llais a chyfranogi. Pobl ifanc sy’n penderfynu ar y blaenoriaethau ac yn pennu natur y gwaith trwy grwpiau llywio sy’n cynnwys trawstoriadau o bobl ifanc o grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio a grwpiau prif-ffrwd.
Ers ei lansio ym mis Ebrill 2015, mae bron i 800 o blant a phobl ifanc wedi gallu mynegi eu barn yn uniongyrchol trwy gyfleoedd ymgynghori ac ymgysylltu wyneb yn wyneb a drefnwyd gan Cymru Ifanc. Hefyd mae ymweliadau â gwefan Cymru Ifanc ac ymatebion i rybuddion yn y cyfryngau cymdeithasol wedi codi’n gyson.
Hyd yma bu 216,250 o ymweliadau â thudalennau Young Wales a 31,274 â thudalennau Cymru Ifanc ac mae llwyr ddisgwyl i’r ffigwr hwn barhau i gynyddu. Mae Cymru Ifanc wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran rhoi llais i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Roeddent yn rhagweithiol o ran nodi wythnos gwrthfwlio ym mis Tachwedd 2015, maent wedi ymgysylltu ag asiantaethau allweddol ym maes diogelwch ar-lein i blant, maent wedi gweithio gyda’r ymgyrch Byw Heb Ofn ar hyrwyddo perthnasoedd iach ac maent wedi codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Hefyd, yn ddiweddar mae Cymru Ifanc wedi cyflwyno adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar y cynnydd yng Nghymru o ran cefnogi hawliau plant yn unol a’r CCUHP. Roedd eu hadroddiad yn amlygu eu pryderon ac yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn amhrisiadwy o ran rhoi dealltwriaeth am faterion allweddol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac roeddwn yn teimlo ei bod yn briodol ein bod yn ymateb yn llawn. Gobeithio y bydd ein hymateb, sydd ar gael isod, yn rhoi sicrwydd i’n cenedlaethau iau ynghylch ein hymrwymiad parhaus i hawliau plant.