Edwina Hart, Y Gweinidog Economy, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Addewais y byddwn yn rhoi i’r Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Tasglu Tata Steel. Cynhaliwyd ei drydydd cyfarfod ar 22 Chwefror.
Unwaith eto, cafwyd cynrychiolaeth gref o’r holl bartïon, gan gynnwys Tata Steel, Undebau Unite a Community yn ogystal â’r cyrff a’r mudiadau hynny all helpu unigolion a’r gymuned fusnes. Rwy’n ddiolchgar i’r Arglwydd Bourne am ei gefnogaeth i’r Tasglu ac am roi o’i amser i ddod am yr eildro i’r Tasglu.
Dechreuodd cyfarfod y Tasglu gydag adroddiad llafar gan Tata Steel ar y sefyllfa ddiweddaraf. Yna, cafwyd adroddiad gan yr Undebau Llafur ynghylch cynhadledd y Diwydiannau Ynni-ddwys ym Mrwsel ar 15 Chwefror a drefnwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Dywedodd yr Undebau bod llawer o bobl wedi dod ynghyd ar gyfer y gwrthdystiadau y tu allan i’r gynhadledd.
Roedd y sylw a dynnwyd gan y gwrthdystwyr yn tanlinellu difrifoldeb yr anawsterau sy’n wynebu’r diwydiant dur ledled Ewrop. Byddwn yn parhau i bledio achos y diwydiant dur yng Nghymru ar lefelau uchaf y Llywodraeth, yn y DU a hefyd yn Ewrop.
Cafwyd adroddiad hefyd ar hynt eu gwaith gan bob un o’r ffrydiau gwaith.
Mae’r ffrwd gwaith Sgiliau a Hyfforddiant wedi parhau i weithio gyda Tata ar sefydlu siop-un-stop i gefnogi a chynghori gweithwyr. Yn y cyfamser, cyn ei sefydlu, mae’r ffrwd gwaith wedi cytuno ar lythyr i’w ddosbarthu trwy bartneriaid a rhwydweithiau i annog sefydliadau i roi gwybod i’r ffrwd gwaith am unrhyw gefnogaeth neu gyfleoedd gwaith a gallent eu cynnig yn y dyfodol. Byddan nhw’n cael eu cofnodi’n ganolog ac yn y lle cyntaf, yn cael eu rhannu gyda Tata.
Mae’r ffrwd gwaith Busnes a’r Gadwyn Gyflenwi’n dal i gysylltu â’r gadwyn gyflenwi ac i gynnig help. Mae cynrychiolwyr Diwydiant Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a swyddogion Llywodraeth Cymru yn aelodau ohono, ac mae cynrychiolydd o Lywodraeth y DU newydd ymuno. Fel rwyf eisoes wedi’i ddweud wrth Aelodau, nid yw’n bosibl ar hyn o bryd, oherwydd natur masnachol sensitif y sgyrsiau a bod y gwaith mor gyfredol, ni allaf roi manylion. Fodd bynnag, mae llawer o waith wedi’i wneud i gysylltu â chwmnïau hynny yng Nghymru ac rydym yn ystyried sut orau i ddefnyddio’n hadnoddau cymorth busnes i gefnogi’r gadwyn gyflenwi.
Mae pethau’n mynd rhagddyn nhw’n dda hefyd ynghylch datblygu cynnig i sefydlu Ardal Fenter yn y fro. Mae fy swyddogion wedi edrych ar ddrafft cyntaf y cynnig, hynny ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, i’w ddatblygu ymhellach, yn enwedig o safbwynt cyd-destun ehangach Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Mae gwaith y ffrwd gwaith Caffael yn mynd rhagddo ac fel rhan ohono, bydd Llywodraeth Cymru yn astudio faint o ddur sydd ei angen ar y prosiectau sydd ganddi ar y gweill. Mae cofrestr o fframweithiau adeiladu mawr ledled Cymru wedi’i llunio er mwyn i’r sector ddur allu trafod cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi. Byddwn hefyd yn ystyried yr achosion busnes a’r broses cymeradwyo grantiau ar gyfer rhaglenni mawr, fel Ysgolion yr 21ain Ganrif, er mwyn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ystyried defnyddio dur o ffynonellau cynaliadwy a chyfrifol, yn unol â’r polisi caffael.
Hefyd, mae’r Gweinidog Cyllid wedi comisiynu adolygiad o’r polisi caffael Budd i’r Gymuned, a fydd yn gyfle i gryfhau’r cysylltiad â’r Siarter dros Ddur Prydeinig Cynaliadwy.
Mae’r ffrwd gwaith Iechyd wrthi’n astudio’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu lles corfforol ac emosiynol a sicrhau bod y gefnogaeth honno ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnyn nhw. Bydd yn cydweithio’n glos hefyd â thîm Iechyd Galwedigaethol Tata.
Hysbyswyd y Tasglu gan yr Arglwydd Bourne bod camau wedi’u cymryd mewn meysydd fel costau ynni isel, mesurau gwrth-ddympio a chaffael, er bod angen gwneud rhagor o waith ar lefel y DU. Pwysleisiodd fod Llywodraeth y DU yn credu bod y rôl caffael yn bwysig iawn a dywedodd ei bod yn rhagweld y bydd 60% o’r deunyddiau a ddefnyddir yn Hinckley Point wedi’u gwneud ym Mhrydain.
Dywedais yn fy Natganiad at Aelodau ddechrau mis Chwefror fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Arglwydd Davies o Abersoch ynghylch opsiynau a syniadau ar gyfer datblygu economi’r ardal ar sail rhanbarth. Mae’n dda gennyf ddweud ein bod wedi cytuno ar Gylch Gwaith ar gyfer y gwaith hwn ac y bydd yr Arglwydd Davies yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd fydd yn wynebu ardal Port Talbot o ran gwaith, buddsoddi a thwf.
Bydd y gwaith yn ystyried y cyd-destun economaidd ac yn nodi arferion da mewn mannau eraill gyda golwg ar sbarduno twf lleol a rhanbarthol. Caiff archwiliad manwl ei gynnal o’r ardal i edrych ar y mentrau sydd eisoes ar waith a ble y ceir clystyrau posibl o weithgarwch a allai gael eu hannog i greu mentrau a swyddi. Edrychir ar y potensial i ddenu ffrydiau ariannu rhyngwladol fel Banc y Byd, y Gorfforaeth Cyllid Ryngwladol, Banc Buddsoddi Ewrop a ffynonellau eraill i fuddsoddi yn yr ardal.
Caiff argymhellion eu cyflwyno i’r Llywodraeth newydd ar ôl Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai. Mater i’r Gweinidog newydd fydd penderfynu sut i’w rhoi ar waith. Hoffwn ddatgan ar gof a chadw nawr fy ngwerthfawrogiad o amser a brwdfrydedd yr Arglwydd Davies i’r gwaith hwn.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd cynnig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, a allai ddenu buddsoddiad sylweddol i Gymru a chreu oddeutu 39,000 o swyddi o fewn y rhanbarth. Daw’r cynnig hwn, sy’n pennu bod ynni’n flaenoriaeth allweddol, ar adeg o frwydro am bob swydd o fewn y diwydiant dur a’i gadwyn cyflenwi. Mae’r weledigaeth o ‘Arfordir Rhyngrwyd’ a’r tair ffrwd integredig sef ynni, iechyd a chyflymu economaidd yn cyd-fynd â rhai o’n blaenoriaethau allweddol. Mae’r ffaith bod y cynnig yn gadarn, yn uchelgeisiol ac yn mynd gam ymhellach wedi creu cryn argraff arnaf, ac rwyf hefyd yn falch fod asedau a daearyddiaeth rhanbarth Bae Abertawe yn sylfaen iddo. Mae’n adlewyrchu’r effaith sylweddol iawn y mae Syr Terry wedi’i chyflawni drwy arwain y Ddinas-Ranbarth.
Mynychais ddoe gyfarfod cyntaf y Cyd Gyngor Dur, a gadeiriwyd gan yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid a Jon Bolton o UK Steel. Mae’r Cyngor hwn yn dwyn ynghyd y diwydiant, undebau llafur, Llywodraeth y DU a Gweinidogion o’r Gweinyddiaethau Datganoledig.
Roedd y trafodaethau a gafwyd yn ystod y cyfarfod yn rhai adeiladol iawn. Rydw i ac eraill, fodd bynnag, yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ymhellach er mwyn diogelu dyfodol y diwydiant dur.
Y fi fydd yn cadeirio cyfarfod nesaf Tasglu Tata dros yr wythnosau nesaf a chaf glywed am ddatblygiadau diweddaraf y ffrydiau gwaith a fydd yn cwrdd yn rheolaidd yn y cyfamser. Erbyn hynny, bydd ymgynghoriad ffurfiol Tata ar y diswyddiadau arfaethedig wedi’i gynnal a byddaf mewn sefyllfa i roi adroddiad llawnach i’r Aelodau.