Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Hoffwn roi’r diweddaraf i Aelodau ar y gwaith sy’n mynd rhagddo ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector Addysg Bellach ers cychwyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Wales) Act 2014, a dderbyniodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.
Ryddhaodd Deddf 2014 golegau rhag rheolaeth llywodraeth ganolog, ac atgyfnerthodd rôl gynyddol bwysig llywodraethwyr colegau o ran gosod cyfeiriad strategol eu sefydliadau. Mae’r newidiadau hyn wedi rhoi mwy o ymreolaeth i’n colegau ac wedi lleihau’r cyfyngiadau sydd ar gyrff llywodraethu. Mae’r newidiadau hefyd yn cryfhau eu hatebolrwydd i fyfyrwyr, i gyflogwyr ac i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae llawer o golegau eisoes wedi ymroi i hyn yn frwdfrydig ac mewn ffyrdd arloesol. Fodd bynnag, mae angen inni wneud mwy i godi safonau ar draws y sector Addysg Bellach yng Nghymru. Mae tystiolaeth glir bod arweinyddiaeth gref ac effeithiol yn arwain at safon uchel. Mae angen inni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob coleg cystal â’r gorau, gydag ymroddiad i gynyddu safonau a ffocws ar hynny.
Mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol â rhanddeiliaid ym maes addysg bellach. Drwy weithio’n agos â’r sector, rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan lywodraethu yn y gwaith o sicrhau iechyd ariannol, codi safon y ddarpariaeth drwy herio perfformiad gwael, a sicrhau llwyddiant o ran cenhadaeth colegau. Mae llywodraethu sefydliadol da yn hollbwysig i’r gwaith o gyflawni ein polisïau’n effeithiol a sicrhau atebolrwydd i lywodraeth ac i drethdalwyr.
Dyna’r rheswm dros roi mwy o ryddid i’r sector Addysg Bellach a chaniatáu mwy o ymreolaeth o ran gwneud penderfyniadau, gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad yn hytrach na’n rhoi cyfarwyddyd.
I gryfhau’r berthynas honno, cynorthwyom ColegauCymru i gomisiynu fframwaith arfer da newydd ar gyfer llywodraethu ym maes Addysg Bellach. Mae’r Cod newydd ar gyfer llywodraethwyr wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid o’r sector.
Mae llywodraethu cryf wrth galon yr amcan hwn; mae’n hanfodol i lwyddiant pob coleg. Llywodraethwyr sy’n goruchwylio’u colegau; nhw sy’n arwain yr ymdrechion strategol i wella safonau dysgu ac addysgu a nhw hefyd sy’n dwyn Penaethiaid i gyfrif. Yn ogystal, mae llywodraethwyr yn warcheidwaid arian cyhoeddus ac yn gyfrifol am sicrhau y caiff adnoddau eu colegau eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon.
Rwy’n falch o weld bod y cod newydd i lywodraethwyr Addysg Bellach yng Nghymru yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled llywodraethwyr. Hefyd, mae’n cydnabod bod cyfrifoldebau a gofynion arbennig ynghlwm wrth rôl llywodraethwr. Hoffwn ddiolch i’r sector Addysg Bellach a ColegauCymru am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn ar y prosiect pwysig hwn. Mae’r Cod newydd wedi’i ddatblygu gan randdeiliaid addysg bellach, a hynny er budd y sector cyfan. Hynny yw, mewn geiriau eraill, mae’r Cod wedi’i lunio ‘gan y sector, ar gyfer y sector’ er mwyn sicrhau llywodraeth gryfach a safonau gwell drwy ddarparu adnodd arfer gorau cyfleus gyda dolenni at ddeunydd ategol perthnasol a chyfredol.
Ar ran Llywodraeth Cymru, croesawaf gyhoeddiad y Cod newydd hwn. Anogaf bob coleg addysg bellach yng Nghymru i fabwysiadu’r Cod fel adnodd ar gyfer datblygu rhagoriaeth ym maes llywodraethu, er mwyn inni, gyda’n gilydd, allu cyflawni ein hamcan – sef system addysg bellach o safon, myfyrwyr llwyddiannus, busnesau cryf a dyfodol llewyrchus i bawb.