Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i AeIodau’r Cynulliad yn dilyn ail gyfarfod Tasglu Ffoaduriaid Syria ar 10 Chwefror.
Mae’r argyfwng dyngarol hwn yn parhau i waethygu. Yn ddiweddar, rydym wedi clywed am bobl a’u teuluoedd yn ffoi o’u cartrefi yn Aleppo. Rwy’n parhau i drafod gyda Gweinidog y DU dros Ffoaduriaid Syria ac rwyf wedi datgan unwaith eto y bydd Cymru yn parhau i chwarae rhan lawn yn yr ymrwymiad i ailsefydlu 20,000 o ffoaduriaid ledled y DU.
Mae Cymru wedi croesawu tua 50 o ffoaduriaid Syria yng Nghaerffili, Ceredigion, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot. Rwyf wedi cymeradwyo’r Awdurdodau Lleol hyn am roi Cymru ar flaen y gad o ran adsefydlu pobl sydd mewn angen dybryd. Bydd hyn yn sail i ymrwymiad mwy ar draws Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Rwyf ar ddeall bod nifer o Awdurdodau Lleol eraill wrthi’n paratoi i groesawu ffoaduriaid o Syria yn y gwanwyn. Mae’n hollbwysig bod Awdurdodau Lleol yn rheoli eu prosesau cyfathrebu eu hunain yn hyn o beth ac yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain o ran a ddylid rhannu unrhyw wybodaeth gyda’r cyhoedd ynghylch niferoedd neu ddyddiadau cyrraedd.
Mae cryn gefnogaeth wleidyddol a lleol i’r Rhaglen ledled Cymru yn dal i fod. Mae Awdurdodau Lleol yn parhau i gynnal trafodaethau positif gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod prosesau yn cael eu symleiddio ac yn gynaliadwy er mwyn i Gymru allu cynnig mwy byth o gefnogaeth. Rwy’n awyddus i gael gwybod am unrhyw beth a allai fod yn rhwystr i awdurdodau rhag cymryd rhan yn y Rhaglen, ac rwyf wedi rhoi gwybod i Weinidog y DU dros Ffoaduriaid Syria bod y diffyg cyllid ar gyfer gofal iechyd ar ôl y flwyddyn gyntaf yn destun pryder arbennig imi. Byddaf hefyd yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch sut y gall Awdurdodau Lleol ddefnyddio’r cyllid gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth y DU am ddechrau defnyddio dull gweithredu rhanbarthol mwy cynaliadwy o fis Ebrill, ac mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fodel cynaliadwy i Gymru er mwyn hyrwyddo gwaith rhanbarthol. Rwy’n cefnogi’r dull hwn a fydd yn ei gwneud yn bosibl rhannu arferion da ledled Cymru. Fodd bynnag, rwyf wedi’i gwneud yn glir i Lywodraeth y DU y dylid ariannu hyn yn briodol.
Mae cymunedau ledled Cymru wedi parhau i fod yn hael eu cymorth i ffoaduriaid. Rwy’n awyddus i allu defnyddio’r gefnogaeth hon pan fydd gyda ni fwy o wybodaeth am Gynllun Nawdd Cymunedol Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cael gwybod y bydd yna ymgynghoriad ar hyn a byddaf yn gofyn am gyngor o bob sector i sicrhau y gall unrhyw fodel arloesol newydd weithredu’n effeithiol ledled Cymru. Yn amlwg, mae angen bod yn ymwybodol o faterion cynaliadwyedd a diogelwch wrth ddarparu cymorth. Yn y cyfamser, rwy’n awgrymu bod unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n ystyried cynnig cymorth yn cysylltu â’u Hawdurdod Lleol.
Hoffwn ailbwysleisio fy nghefnogaeth innau i geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, nad ydynt yn rhan o’r Rhaglen i Adsefydlu Ffoaduriaid Syria. Rydym o’r farn bod y broses integreiddio yn dechrau unwaith y byddant yn cyrraedd ac rwy’n parhau i gyllido Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Prosiect Trinity a’r Groes Goch Brydeinig i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru. Caiff ein hymrwymiad i groesawu a chefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ei ailddatgan drwy’r Cynllun Cyflawni dros Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid, a gaiff ei lansio ym mis Mawrth.
Yn ddiweddar, cyhoeddais fod y cyllid ar gyfer wyth Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol yn parhau. Nid yn unig mae ganddynt rôl o ran cefnogi Awdurdodau Lleol wrth weithredu’r Rhaglen, ond maent hefyd yn gweithio mewn meysydd allweddol, fel mynd i’r afael â throseddau casineb, trechu tlodi a mewnfudo. Byddaf yn lansio Cynllun Cenedlaethol newydd yn ystod mis Mawrth i barhau â’n hymrwymiad i gefnogi cymunedau cydlynol, sydd bellach wedi’i ddatgan mewn deddfwriaeth drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Yn dilyn Cwestiynau’r Cynulliad ar 3 Chwefror, cytunais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynghylch adsefydlu plant ar eu pen eu hunain sy’n ffoaduriaid ac sy’n dod o ardaloedd rhyfel. Aeth un o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru i drafodaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf er mwyn cael mwy o fanylion am y cynllun arfaethedig, ac rwyf wedi siarad â Richard Harrington AS, Gweinidog y DU dros Ffoaduriaid Syria, ynghylch y camau nesaf. Rwy’n bwriadu gweithredu ar unwaith ar y mater hwn, ac mae Tasglu Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sefydlu Is-Grŵp penodol i’r Bwrdd Gweithrediadau er mwyn dechrau cynllunio ac asesu’r sgiliau a’r capasiti ledled Cymru.