Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Rwyf heddiw’n gosod gerbron Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy a’r Newid yn yr Hinsawdd. Trwy baratoi’r adroddiad, rydym wedi gwneud ein dyletswyddau o dan adran 79(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Adran 80 Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Mae’n disgrifio’r hyn rydym wedi’i wneud ym meysydd datblygu cynaliadwy a newid hinsawdd ers mis Ebrill 2014.
Gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gofyn inni newid y ffordd y byddwn yn paratoi adroddiadau yn nhymor y Cynulliad nesaf, hwn fydd yr adroddiad olaf o’i fath. Mae hefyd yn cynnwys am y tro olaf sylwebaeth gan Peter Davies sy’n gadael ei swyddi fel y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Chadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n ddiwedd pennod yn y rhan hon o hanes datganoli. Rwy’n estyn fy niolch didwyll i Peter am ei waith dros y blynyddoedd a fu’n allweddol i’n cynnydd yma yng Nghymru.
Gan edrych tua’r dyfodol a symud tuag at y trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Bil yr Amgylchedd (Cymru) sy’n rhoi lle canolog i ddatblygu cynaliadwy a’r newid yn yr hinsawdd yn holl waith llywodraeth yng Nghymru, rwy’n disgwyl ymlaen at weithio gyda Sophie Howe, Comisiynydd statudol cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, i’n helpu i roi’n huchelgais yn realiti.