Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Yn y Gwanwyn y llynedd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyhoeddais gyflwyno rhaglen ddilysu allanol genedlaethol newydd ar gyfer Cyfnodau Allanol 2 a 3 yn rhan o'n cynlluniau i gryfhau cywirdeb a chysondeb asesiadau gan athrawon.
Mae'r rhaglen yn cael ei darparu ar ran Llywodraeth Cymru gan y Bartneriaeth Genedlaethol, sy'n cynnwys y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn gweithio fel un corff. Y llynedd, canolbwyntiodd y rhaglen ddilysu allanol ar asesiadau gan athrawon ym meysydd mathemateg a gwyddoniaeth. Hoffwn ddiolch i ysgolion ledled Cymru am gymryd rhan yn y rhaglen mewn ysbryd cadarnhaol. Rwy'n falch bod yr wybodaeth a gasglwyd eisoes wedi arwain at nifer o gamau gweithredu ac y caiff yr wybodaeth honno ei defnyddio hefyd yn sail i arferion a fydd yn cael eu rhoi ar waith.
Mae'r consortia wedi cydweithio i ddarparu canllawiau i ysgolion ynglŷn â hanfodion asesu gan athrawon, gan gynnwys y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi penderfyniadau ffit orau. Maen nhw wedi darparu canllawiau manylach a mwy cyson ynghylch trefnu a chyflawni'r gwaith o gymedroli clystyrau'n effeithiol. Mae'r deunyddiau hyn wedi'u dosbarthu i ysgolion erbyn hyn a byddant yn cael eu defnyddio i ategu trefniadau rhanbarthol ledled Cymru.
Mae deunyddiau enghreifftiol hefyd yn cael eu darparu i sicrhau cysondeb yn y ffordd o weithio.
Bydd rhaglen ddilysu allanol eleni'n digwydd yn gynnar yn ystod tymor yr haf 2016. Rwyf eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth i ategu trefniadau cymedroli clystyrau, gan ei gwneud hi’n ofyniad statudol bod pob ysgol yn cymryd rhan. Mae'n briodol felly y bydd ail flwyddyn y rhaglen yn canolbwyntio ar drefniadau clwstwr o fewn pob consortiwm. Bydd ymweliadau â chlystyrau ac ag ysgolion unigol yn edrych ar benderfyniadau athrawon wrth asesu meysydd Cymraeg, Cymraeg fel ail iaith a Saesneg.
Yng Nghymru, asesu gan athrawon yw'r prif gyfrwng ar gyfer asesu cyn ennill cymwysterau, a bydd y sefyllfa hon yn parhau. Mae hyn yn gyson â Dyfodol Llwyddiannus. Mae asesiadau cywir gan athrawon yn hanfodol er mwyn cefnogi a llywio cynnydd dysgwyr a byddaf yn ysgrifennu at bob ysgol i bwysleisio pwysigrwydd asesiadau athrawon unwaith eto a'u hannog i gefnogi gwaith y Bartneriaeth eleni a fydd yn canolbwyntio ar ysgolion a chlystyrau.
Rhaglen wirio allanol Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (dolen allanol)