Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Ym mis Hydref 2014, penodais Banel Arbenigol i adolygu'r ddarpariaeth o amgueddfeydd lleol ar hyd a lled Cymru. Cyhoeddodd y panel ei adroddiad, Adolygiad Arbenigol ar y Ddarpariaeth o Amgueddfeydd Lleol yng Nghymru 2015, ar 25 Awst 2015. Ar 4 Chwefror 2016, roeddwn mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y deg argymhelliad yn yr adroddiad.
Mae amgueddfeydd lleol ledled Cymru yn geidwaid ar elfennau o dreftadaeth fwyaf eiconig a brau ein cenedl, ac yn eu diogelu er budd y genhedlaeth sydd ohoni a chenedlaethau'r dyfodol. Dylai hyn fod yn elfen allweddol o'n rhaglen Cyfuno, ac rwy'n ymwybodol bod rhai amgueddfeydd yn gwneud gwaith ardderchog yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae'r Adolygiad wedi nodi nad oes gan amgueddfeydd lleol yr adnoddau na'r capasiti.
Rwy'n croesawu argymhellion yr Adolygiad, ac yn sylweddoli y bydd angen eu gweithredu dros amser. Rwy'n cydnabod bod cyflawni yn gofyn am weithio mewn partneriaeth, ac er mwyn llywio'r sector yn ei flaen a bwrw ymlaen â'r argymhellion, byddwn yn datblygu'r Strategaeth Amgueddfeydd Cymru nesaf. Cyhoeddir hon yn ystod 2016, a bydd proses ymgynghori yn dechrau maes o law.
Anfonwyd copi o'r adroddiad at bob Aelod Cynulliad ym mis Medi.
Mae f'ymateb i argymhellion yr adroddiad wedi'u hamlinellu isod:
Argymhelliad 1: Creu tri Chorff Rhanbarthol
Byddai cyrff rhanbarthol yn fwy gwydn a mwy abl i gyflawni Cyfuno ochr yn ochr â rhaglenni strategol eraill. Byddent yn sicrhau gweithlu mwy amrywiol a brwdfrydig, ac yn elwa ar arbedion maint. Byddai ganddynt hefyd fwy o botensial i ddenu grantiau, cynhyrchu incwm, a darparu gwasanaethau o safon uchel. Byddent yn sicrhau cefnogaeth ar draws rhanbarth, er mwyn galluogi i'r gwasanaeth gael ei gyflawni ar lefel leol. Byddaf yn gofyn i swyddogion weithio gyda CLlC i asesu'r cyfleoedd y mae'r argymhelliad hwn yn eu cynnig, ac i ymchwilio i'w ddichonoldeb.
Argymhelliad 2: Creu Cyngor Amgueddfeydd cenedlaethol
Mae gan Lywodraeth Cymru is-adran polisi arbenigol sydd, mewn cydweithrediad â'r sector, wedi creu'r strategaeth genedlaethol gyntaf yn y DU ar gyfer amgueddfeydd. Mae'r gwaith o gyflawni yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio sydd â chynrychiolwyr o amrywiaeth o gyrff yn y sector. Mae cyfleoedd yn bodoli i ddatblygu'r grŵp llywio hwn.
Argymhelliad 3: Datblygu Siarter Amgueddfeydd
Mae Cynllun Achredu'r DU yn pennu safonau gofynnol. Bydd Siarter Amgueddfeydd yn amlinellu beth y gall cymunedau ac ymwelwyr ei ddisgwyl gan amgueddfeydd cyhoeddus rhagorol. Bydd cerrig milltir eglur ar gyfer cyflawni yn cael eu hymgorffori yn y Strategaeth Amgueddfeydd Cymru nesaf.
Argymhelliad 4: Awdurdodau Lleol i ystyried pob opsiwn wrth adolygu gwasanaethau amgueddfeydd
Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i warchod ein treftadaeth. Dylai pob awdurdod lleol amlinellu eu bwriadau ar gyfer gwasanaethau amgueddfeydd, a sut y bydd amgueddfeydd a'u casgliadau yn eu cynorthwyo i gyflawni eu cyrchnodau lles.
Argymhelliad 5: Sefydlu Casgliad Cymru
Mae'r argymhelliad hwn yn adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd eisoes gan amgueddfeydd i ddatblygu'r Casgliad Cenedlaethol sydd ar Wasgar. Byddwn yn gweithio gyda'r sector i fwrw ymlaen â hyn.
Argymhelliad 6: Datblygu gweithlu
Yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd i ddarparu rhaglen hyfforddiant ar gyfer y sector, a fydd yn cynnwys hyfforddiant a chymorth perthnasol i fynd i'r afael â heriau newydd.
Argymhelliad 7: Cronfa trawsnewid
Bwriad yr argymhelliad hwn yw cefnogi'r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau i gyrff rhanbarthol. Bydd creu cronfa yn fater i'r llywodraeth nesaf benderfynu arno.
Argymhelliad 8: Taliadau mynediad i amgueddfeydd
Rwy'n cydnabod bod yna ddiffyg eglurder ynglŷn â pham y mae rhai amgueddfeydd yn codi tâl, tra nad yw eraill yn gwneud hynny. Rwyf wedi gofyn i waith ddechrau ar gomisiynu adolygiad o daliadau mynediad i amgueddfeydd, er mwyn sicrhau eglurder ar gyfer y sector ac ar gyfer ymwelwyr. Ni fydd hyn yn newid polisi Llywodraeth Cymru o fynediad am ddim i'n Hamgueddfeydd Cenedlaethol.
Argymhelliad 9: Gostyngiad yn yr Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
Byddai cyfle i amrywio'r ardrethi busnes ar gyfer amgueddfeydd yn fater i Lywodraeth Cymru ei ystyried yn y dyfodol.
Argymhelliad 10: Cefnogaeth Llywodraeth Cymru a datblygu amgueddfeydd
Rwyf wedi gofyn i swyddogion archwilio'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer cyflawni'r argymhelliad hwn.