Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Ionawr 2015 cyhoeddwyd ymgynghoriad ar y cyd i gefnogi plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn well drwy wella lefelau eu cyrhaeddiad addysgol. Yn y cyfarfod llawn ar 3 Chwefror 2015 ymrwymodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu diweddariad ar gynnydd y gwaith hwn i Aelodau’r Cynulliad.
Hoffem fanteisio ar y cyfle i hysbysu’r Aelodau bod ein strategaeth addysg ar y cyd - Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru - wedi’i chyhoeddi heddiw.
Mae’r strategaeth yn nodi meysydd lle mae angen targedu camau gweithredu i gefnogi addysg plant sy’n derbyn gofal yn well. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gamau gweithredu i gefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol gorfodol, ond hefyd yn sicrhau bod trefniadau’n ystyried yr angen am bontio effeithiol i addysg bellach neu uwch a gwaith.
Mae cynllun gweithredu cysylltiedig yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru drwy gamau gweithredu unigol, gan weithio gyda’r holl bartneriaid allweddol, i wella canlyniadau addysgol i blant sy’n derbyn gofal. Bydd cyflawniad yn erbyn y cynllun gweithredu’n cael ei fonitro’n flynyddol, gan ddefnyddio ffynonellau data i wirio cynnydd a sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn gweithio’n effeithiol.
Rydym wrth ein bodd o fod wedi cydweithio’n agos y llynedd â’r Rhwydwaith Maethu, Voices From Care a CASCADE – Prifysgol Caerdydd i sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu barn a phrofiadau addysg gofalwyr maeth a’r plant a phobl ifanc eu hunain. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn gymorth mawr i gryfhau ein dealltwriaeth o’r heriau y mae plant a gofalwyr yn gorfod eu hwynebu, a byddwn yn chwilio am gyfleoedd pellach i ddatblygu’r gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn.
Rydym yn ddiolchgar am eu cymorth a’u cefnogaeth gyda’r gwaith pwysig hwn ac i’r holl sefydliadau ac unigolion a gyfrannodd i’r ymgynghoriad ac yn y ddau ddigwyddiad llwyddiannus a gynhaliwyd yn y De a’r Gogledd.
Mae’r strategaeth a’r cynllun gweithredu yn cynnwys manylion y gwaith a wnaed gyda’r Rhwydwaith Maethu, Voices from Care a CASCADE - Prifysgol Caerdydd.
Cyhoeddi’r strategaeth hon yw'r cam cyntaf mewn nod y cyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau parhaus ym mhob canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bob agwedd ar eu bywydau.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a fydd yn helpu i leihau nifer y plant sy'n mynd i ofal, gwella canlyniadau i blant sydd eisoes mewn gofal a darparu gwell cyfleoedd i bobl sy'n gadael gofal. Mae Grŵp Llywio Strategol wedi'i sefydlu i gymryd ymagwedd traws-lywodraeth strategol i blant sy'n derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, cydweithio gwell a rhannu arfer gorau. Byddwn hefyd yn ystyried yn ofalus sut y gallwn gyflwyno annibyniaeth i mewn i'r broses hon er mwyn sicrhau digon o drylwyredd. Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu mwy o waith yn y maes hwn dros y misoedd nesaf.