Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein Hamcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016-20. Dyma gam nesaf ein gwaith i weithredu Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru.
Yn 2012, o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru, cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyntaf a'n cyfres gyntaf o Amcanion Cydraddoldeb er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb sy’n bod ers tro ar gyfer bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n Hamcanion Strategol wedi llywio camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a wynebir gan bobl o grwpiau gwarchodedig ar draws Cymru. Mae'r pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod pwysig o gynnydd yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl decach.
Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gofyn bod Llywodraeth Cymru'n adolygu a diweddaru ei Hamcanion Cydraddoldeb bob pedair blynedd, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i weithio tuag at wneud Cymru'n genedl decach gan ddileu'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd a dyheadau.
Fel rhan o'r adolygiad hwn o'r Amcanion Cydraddoldeb, ymgysylltwyd yn eang â rhanddeiliaid ar draws Cymru yn ystod yr haf y llynedd. Roedd yr adborth a gafwyd yn frwd o blaid cadw hanfodion y gyfres gyntaf o Amcanion, ond gan gryfhau'r cysylltiad â threchu tlodi ac ehangu'r cwmpas i gynnwys gwaith Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant a chydlyniant cymunedol.
Felly, mae pump o'r wyth Amcan Cydraddoldeb newydd wedi mireinio ac adeiladu ar gynnwys y gyfres gyntaf er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm ac yn adeiladu ar ein cynnydd dros y pedair blynedd diwethaf.
Rydym hefyd wedi datblygu dau Amcan newydd sy'n adlewyrchu sylwadau ein rhanddeiliaid. Rydym wedi cynnwys Amcan ar Gydlyniant Cymunedol a Chynhwysiant, gan ddwyn ynghyd ein gwaith parhaus mewn perthynas â chydlyniant cymunedol, sipsiwn a theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches o dan ymbarél yr Amcanion Cydraddoldeb. Yn ogystal, rydym wedi cynnwys Amcan penodol ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb sy'n cryfhau ein dull gweithredu ar gyfer mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol o fewn grwpiau gwarchodedig.
Yn yr un modd â'r Cynllun Cydraddoldeb blaenorol, mae amcan wedi'i gynnwys hefyd sy'n canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru yn ei rôl fel cyflogwr.
Bydd yr Amcanion Cydraddoldeb newydd yn cyfrannu at gyflawni'r Nodau Llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys gwneud Cymru'n genedl decach gyda chymunedau cydlynus. Bydd yr Amcanion yn llywio'r camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac allgáu, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed ym mhedair blynedd cyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Rwy'n ddiolchgar i bob sefydliad ac unigolyn a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar yr Amcanion Cydraddoldeb drafft. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y sylfaen dystiolaeth gref yn 'A yw Cymru'n Decach?', a ddefnyddiwyd yn helaeth gennym ni a chyrff eraill o'r sector cyhoeddus. Maent i gyd wedi helpu i sicrhau bod yr Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016-20 yn canolbwyntio ar barhau i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mwyaf yng Nghymru.