Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Heddiw mae'n bleser gennyf gyhoeddi adroddiad terfynol Llysgenhadon Cyllid yr UE sef "Ewrop yn Bwysig i Gymru: Cyfleoedd Cyllido a Pholisi'r UE 2014-2020".
Penodais banel o Lysgenhadon Cyllid yr UE (Dr Grahame Guilford, Dr Hywel Ceri Jones a Gaynor Richards MBE) ym mis Rhagfyr 2014 er mwyn helpu i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd yn sgil rhaglenni cyllido yr UE a reolir yn uniongyrchol. Cafodd y penodiadau eu gwneud fel ymateb uniongyrchol i adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar gyfleoedd cyllido yr UE ar gyfer 2014-2020, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Tynnai'r adroddiad sylw at yr angen i gyfrannu at raglenni'r UE a reolir yn uniongyrchol yng Nghymru a'u hyrwyddo ymhellach.
Mae'r adroddiad terfynol hwn, sydd ar gael ar lein, yn cynrychioli 15 mis o waith ymchwilio a hyrwyddo gan y Llysgenhadon, a hynny'n rhan-amser ac yn wirfoddol. Yn ystod yr amser hwn maent wedi cynnal rhaglen helaeth o drafodaethau ac wedi mynychu a hwyluso digwyddiadau, ar lefel ddomestig ac ar lefel yr UE. Mae hyn wedi cynnwys cyfres o gyfarfodydd gyda swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, CBI, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn y Busnesau Bach a'r sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, ynghyd ag amrywiol randdeiliaid a phartneriaid eraill sy'n ymwneud â dyrannu a dosbarthu Cyllid Polisi Ewropeaidd.
Yn ogystal, mae'r Llysgenhadon wedi gweithio gyda'u sectorau eu hunain i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyllido yr UE ac maent wedi helpu i hwyluso nifer o gynadleddau a digwyddiadau allweddol a chymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Digwyddiad Blynyddol Horizon 2020 a chynhadledd ar y cyd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sef Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol. Hefyd mae'r llysgenhadon wedi cynnal nifer o drafodaethau â Chomisiwn Ewrop a Sefydliadau Ewropeaidd eraill, ac yn rhan o'u gwaith maent wedi bod yn edrych ar draws gweddill y DU ac Ewrop i nodi arfer gorau.
Rwyf yn hynod ddiolchgar i'r tri Llysgennad am yr amser a'r ymdrech y maent wedi eu neilltuo i'w rolau ac am yr effaith gadarnhaol y maent wedi ei chael o ran ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid a chodi ymwybyddiaeth a phroffil cyfleoedd cyllido yr UE yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn werthfawr dros ben ynddo'i hun, ond hefyd mae eu hadroddiad terfynol yn cynnwys nifer o argymhellion allweddol a fydd, yn eu tyb hwy, yn ein rhoi mewn sefyllfa well o lawer i fanteisio'n llawn ar y synergeddau rhwng blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a'r UE ar gyfer gweddill cyfnod rhaglennu 2014-2020. Ategir y rhain gan nifer o gynigion ac arsylwadau thematig.
Mae argymhellion y Llysgenhadon yn adeiladu ar y cynigion yn yr adroddiad interim, y bu i mi eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr ac y ceisiais sylwadau arnynt gan bartneriaid a rhanddeiliaid ym mhob sector yng Nghymru. Roedd yn glir yn ôl yr ymatebion a gafwyd fod cefnogaeth eang i gynigion y Llysgenhadon, ac rwyf yn falch o weld bod y rhain wedi cael eu datblygu ymhellach yn eu hadroddiad terfynol.
Gan ystyried yr argymhellion cynharach yn adroddiad interim y Llysgenhadon, rwyf hefyd yn falch o gael cyhoeddi ein bod eisoes wedi cymryd camau gweithredu er mwyn sefydlu Grŵp Polisi yr UE o blith uwch-swyddogion.
Mae'r Llysgenhadon wedi pwysleisio pa mor bwysig yw nodi a chanolbwyntio ar flaenoriaethau strategol allweddol sy'n bwysig i Gymru a thargedu ymdrechion ac adnoddau i gyflawni'r rhain yn hytrach na mynd ar drywydd cyfleoedd cyllido yn unig. Er mwyn helpu i gyrraedd y nodau hyn maent wedi cynnig cyflwyno strwythur cyflawni a rheoli integredig sy'n canolbwyntio ar strategaeth a blaenoriaethau, a byddai'r strwythur hwn yn cynnwys y Llywodraeth a phartneriaid.
Mae'r Llysgenhadon hyn wedi rhoi pwyslais mawr ar yr angen i flaenoriaethu, ac maent wedi awgrymu ei bod yn debygol y bydd cyfleoedd sylweddol mewn meysydd fel Dinasoedd Deallus, Gwyddorau Bywyd, a Gofal Iechyd, effaith poblogaeth sy'n heneiddio a dadrithiad ymysg pobl ifanc, yn enwedig lle gellid mynd i'r afael â hyn trwy ymyriadau blynyddoedd cynnar.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y cymorth rydym yn ei gael gan Gronfeydd Strwythurol yr UE, y Rhaglen Datblygu Gwledig, a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, sydd werth mwy na £500 miliwn yn flynyddol, er mwyn targedu a manteisio ymhellach ar gyfleoedd cyllido eraill yr UE a chynyddu eu proffil yng Nghymru. Rwyf yn siŵr y bydd y cynigion hyn yn ein helpu i wneud hynny ac yn helpu i gryfhau'r trefniadau partneriaeth sydd eu hangen er mwyn cyrraedd y nod hwnnw a helpu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyllid Ewropeaidd.
Rwyf yn croesawu'r adroddiad yn fawr, ac er mai gwaith Llywodraeth newydd Cymru fydd ystyried gweithredu'r argymhellion a phenderfynu ar drefniadau cyflawni a threfnu ar gyfer y dyfodol, rwyf yn falch o gael cymeradwyo hanfod y cynigion a geir ynddo.
Rhestrir y 7 argymhelliad allweddol a geir yn adroddiad y Llysgenhadon isod:
- Adolygu ac ailddatgan strategaeth UE Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Fframwaith Blaenoriaethau Ewropeaidd a fyddai'n pennu'n glir nifer cyfyngedig o feysydd strategol allweddol fel y blaenoriaethau uchaf y dylai Llywodraeth Cymru eu targedu a'u cefnogi yn y cyfnod hyd at 2020.
- Cadarnhad gan Lywodraeth newydd Cymru ar ôl yr etholiad o'r Grŵp Polisi Ewropeaidd, sy'n cynnwys aelodau ar lefelau uchaf y Llywodraeth, wedi'i gadeirio gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am bolisi cyllido yr UE.
- Datblygu ymhellach grŵp rhwydwaith Ewropeaidd newydd a'i ehangu i gynnwys ystod ehangach o randdeiliaid.
- Sefydlu tîm cymorth i ategu gwaith y Grŵp Polisi Ewropeaidd, gan ddwyn ynghyd arbenigedd swyddogion polisi allweddol, WEFO a staff Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.
- Cryfhau rôl swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel fel prif ffocws gweithredu tactegol, ffynhonnell wybodaeth allweddol i lywio blaenoriaethu strategol, sydd â'r grym i roi camau dilynol ar waith er mwyn cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
- Ystyried pa drefniadau rheoli sy'n ofynnol yn y dyfodol er mwyn cryfhau cydgysylltiad cyffredinol yr ystod o ffrydiau cyllido Polisi'r UE sydd ar gael i Gymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru barhau i rannu enghreifftiau da yn eang er mwyn dangos effaith, potensial neu wirioneddol, fentrau Cymreig/Ewropeaidd a'r gwahaniaeth y gallant ac y maent yn ei wneud i Gymru.