Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Hydref 2015 cyhoeddais ddatganiad yn amlygu’r rhesymau dros yr oedi o ran cyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch addysg ddewisol yn y cartref. Fy mwriad ar y pryd oedd cyhoeddi’r canllawiau yn ystod y Gaeaf hwn er mwyn rhoi amser i swyddogion i ystyried pob un o’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori.
Oherwydd cyhoeddiad arfaethedig o’r adolygiad ymarfer plant ynghylch farwolaeth Dylan Seabridge, penderfynais ohirio cyhoeddi’r canllawiau hyn er mwyn i ni gael cyfle i ystyried canfyddiadau’r adolygiad ac i sicrhau bod ein canllawiau yn eu hadlewyrchu lle bo’n briodol.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau