Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhoddodd Llywodraeth Cymru gylch gwaith i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG ac i’r Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion (DDRB) ynghylch cyflogau staff y GIG sy'n cael eu cyflogi yn unol â thelerau ac amodau'r Agenda ar gyfer Newid; a meddygon a deintyddion.
Rwy'n ddiolchgar i'r cyrff adolygu cyflogau am eu hargymhellion a'u sylwadau. Ar ôl ystyried eu cynigion yn ofalus, rwyf wedi derbyn yr argymhellion canlynol ar gyfer 2016-17.
Ar gyfer staff Agenda ar gyfer Newid sy'n cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru, rwyf wedi derbyn yr argymhelliad o 1% o gynnydd cyfunol i'r holl raddfeydd cyflog o 1 Ebrill 2016.
Rwy'n parhau yn fy ymrwymiad i fynd i'r afael â’r mater o gyflog isel yng Nghymru a byddaf yn sicrhau y bydd y rhai sy’n ennill y cyflogau isaf yn y GIG yng Nghymru yn cael cyflog teg, fel yr argymhellir gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Felly, rwy'n rhoi'r cynnydd i'r cyflog byw ar waith - i £8.25 yr awr – i holl staff y GIG sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol o 1 Ionawr 2016. Yn y dyfodol, bydd unrhyw godiadau pellach i'r cyflog byw yn cael eu gwneud yn unol â dyddiad dyfarnu cyflogau’r GIG ym mis Ebrill.
Ar gyfer meddygon a deintyddion cyflogedig, bydd cynnydd cyfunol o 1% yn cael ei weithredu ar gyfer yr holl raddfeydd cyflog o 1 Ebrill 2016. Bydd cynnydd o 1% i werth y dyfarniadau am ragoriaeth glinigol; bydd cynnydd o 1% i werth y dyfarniadau ymrwymo a bydd cynnydd o 1% yng ngwerth y grant hyfforddwyr meddygon teulu, yn unol ag argymhellion y DDRB.
At hynny, bydd meddygon a deintyddion a dderbyniodd 2% o dâl heb ei gyfuno yn 2015-16, ac sydd heb drosglwyddo i raddfa gyflog newydd ers hynny, hefyd yn derbyn tâl heb ei gyfuno sy’n cyfateb i 1% o’u henillion sylfaenol.
I feddygon teulu sydd ar gyflog, bydd 1% o gynnydd yn isafswm ac uchafswm y raddfa gyflog.
O ran meddygon teulu, rwyf wedi derbyn argymhelliad y DDRB i godi’r cyflog 1%, yn net o dreuliau, ar gyfer 2016-17. Rwyf felly wedi penderfynu y bydd meddygon teulu yng Nghymru yn cael cynnydd cyffredinol o 2.2% yn eu cyflog a’u treuliau, mewn modd tebyg i Loegr.
Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau i gydnabod twf yn y boblogaeth, a chyllid i dalu am gostau busnes cynyddol, gan gynnwys y cynnydd yng nghostau blwydd-daliadau cyflogwyr, cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ac yswiriant indemniad proffesiynol.
Bydd cyflogau deintyddion yn cynyddu 1%, yn net o dreuliau. Ar ôl defnydd llawn o’r data diweddaraf i ganiatáu ar gyfer costau practis a threuliau eraill, a chan ddefnyddio’r un dull fformiwla ag yn y blynyddoedd blaenorol, bydd gwerth contractau deintyddol yn cynyddu 1.1%.
Ni ofynnwyd i’r cyrff adolygu roi argymhelliad ynghylch cyflogau uwch-swyddogion gweithredol, ac ar hyn o bryd bydd y graddfeydd cyflog yn aros fel y maent.
Mae’r dyfarniad cyflog hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i’r staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni. Ein blaenoriaeth o hyd yw gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff a’r undebau llafur i sicrhau trefniadau cyflog teg a chyfiawn ar draws y GIG yng Nghymru.