Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, rwyf yn benderfynol o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau i bobl drawsryweddol ac rwyf yn falch o lansio Cynllun Gweithredu Trawsryweddol Llywodraeth Cymru.
Yn ystod yr haf y llynedd, lansiais ymgynghoriad ar gamau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru i wella cydraddoldeb i bobl drawsryweddol yng Nghymru. Cynhaliais grŵp ffocws gyda phobl ifanc drawsryweddol pan glywais drosof fy hunan am y blaenoriaethau y maent yn dymuno i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hwy. Trwy’r ymgynghoriad a’r grwpiau ffocws y bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan ohonynt, mae unigolion a sefydliadau trawsryweddol wedi llywio ein dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio arnynt o ddydd i ddydd, ac maent wedi llunio a dylanwadu ar y Cynllun Gweithredu a grëwyd o ganlyniad i hynny.
Hoffwn ddiolch i aelodau o’r gymuned drawsryweddol a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad, trwy ymateb yn ysgrifenedig neu trwy gymryd rhan yn y grwpiau ffocws. Bu eu safbwyntiau a’u cyfraniadau yn hynod o werthfawr wrth ffurfio’r Cynllun Gweithredu hwn.
Y Cynllun Gweithredu Trawsryweddol fydd y cyfrwng ar gyfer hyrwyddo camau gweithredu traws-lywodraethol i fynd i’r afael â rhwystrau i gydraddoldeb ar gyfer pobl drawsryweddol. Mae’n cynnwys camau adnabyddadwy a chadarn gyda’r bwriad o wneud gwelliannau pendant i fywydau pobl drawsryweddol.
Mae’r rhain yn cynnwys camau sydd wedi’u hanelu’n benodol at wella cydraddoldeb i blant a phobl ifanc drawsryweddol. Byddwn yn mynd i’r afael â bwlio ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion trawsryweddol ymysg y bobl hynny sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
Byddwn yn mynd i’r afael â meysydd sy’n achosi pryder yn ein cymunedau fel trechu troseddau casineb drawsffobig, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a byddwn yn cydweithio â Chwaraeon Cymru i ystyried dulliau o ddileu rhwystrau sy’n atal pobl drawsryweddol rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Byddwn yn mynd i’r afael â rhwystrau i gydraddoldeb yn ein Gwasanaethau Iechyd a Thai. Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu Strategaeth GIG Cymru ar gyfer Cymru, a fydd yn cynnwys llwybr gofal a chanllawiau i ymarferwyr gofal iechyd, i’w datblygu fel blaenoriaeth.
Bydd Busnes Cymru yn rhoi canllawiau ar wefan Busnes Cymru a fydd yn helpu cyflogwyr i gefnogi unigolion trawsryweddol yn y gweithle.
Rwy’n hollol ymrwymedig i sicrhau bod y rhwystrau i gydraddoldeb ar gyfer pobl drawsryweddol yn cael eu dileu. Rwyf am weld y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw a fydd yn gallu datblygu ymhellach wrth i ni barhau i weithio gyda’r gymuned drawsryweddol.