Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad i’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig i Gymru ar ei newydd wedd.
Rydym wedi cyflawni llawer i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a sicrhau gwelliannau i wasanaethau lleol ers i’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig gael ei gyhoeddi yn 2008. Mae’r cynllun gweithredu ar ei newydd wedd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn cydnabod bod mwy i’w wneud eto.
I ddangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau awtistiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol integredig ar gyfer pob oed i Gymru. Bydd y gwasanaeth hwn, sef y gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol cyntaf yn y DU, yn cael cymorth o £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y gwasanaeth integredig newydd yn seiliedig ar ganllawiau ymarfer gorau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. O dan y gwasanaeth, bydd timau sy’n arbenigo mewn cyflyrau niwroddatblygiadol o’r byrddau iechyd, sy’n darparu asesiadau diagnostig ac ymyriadau arbenigol, yn dod ynghyd. Bydd y ddarpariaeth ddiagnostig i oedolion yn cael ei hymestyn a, thrwy ddatblygu timau cymorth cymunedol, bydd rhagor o gyngor ar ymddygiad a chymorth lefel isel yn cael eu darparu. Bydd mynediad yn cael ei ddarparu hefyd at wasanaethau cymunedol a rhaglenni cymorth a bydd unigolion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau o’r fath yn ôl yr angen.
Bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn rhoi cyngor a hyfforddiant i rieni a gofalwyr i’w cefnogi i barhau yn eu rolau pwysig.
Bydd y gwasanaeth integredig yn cael ei gyflwyno ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf. Fel rhan o weithredu’r gwasanaeth newydd, byddwn yn datblygu’r gallu a’r sgiliau proffesiynol i wella asesiadau diagnostig a chymorth ôl-ddiagnostig. Bydd cryn bwyslais ar weithio amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol, er mwyn sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau cydgysylltiedig, a fydd yn cynnwys llwybrau asesu cyson i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Cafodd gwybodaeth ei chyhoeddi yn ddiweddar gennym am gyflwyno’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig i Gymru.
Mae The Outcome Evaluation of the Autistic Spectrum Disorder Strategic Action Plan for Wales 2008 (Saesneg yn Unig); Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad i Randdeiliaid 2015 a’r diweddariad ar y Cynllun Cyflenwi Dros Dro ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi’i gyflawni, adborth gan randdeiliaid a’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.