Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Heddiw, mae'n bleser gen i gyhoeddi'r cylch diweddaraf o brosiectau a fydd yn cael eu cefnogi gan Gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Yn fy Natganiad Llafar diweddar, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad a oedd yn cynnwys manylion y gyfran gyntaf o brosiectau y cytunwyd arnynt yn y cylch ymgeisio diweddaraf. Rhoddais hefyd grynodeb o weithgarwch a llwyddiannau'r Gronfa ers ei lansio yn 2009. Mae'r prosiectau y byddaf yn eu trafod yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn yn cynrychioli'r ail gyfran o gynlluniau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r cylch diweddaraf.
Bydd y Gronfa yn cefnogi cyfanswm o chwe chynllun newydd gwerth ychydig dros £5.5 miliwn gyda'i gilydd. Gyda'r prosiectau newydd hyn, bydd cyfanswm nifer y buddsoddiadau yn cyrraedd bron 160 a chyfanswm gwerth ariannol y buddsoddiad dros £145 miliwn.
Yn gyntaf, rwyf yn falch o roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am brosiect cyntaf y Gronfa a fydd yn cael ei arwain gan y trydydd sector. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £157,000 o gefnogaeth i'r elusen iechyd meddwl, Hafal, gyda'r posibilrwydd o gynyddu'r gefnogaeth i hyd at £500,000. Bydd yr arian yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu canolfan driniaeth iechyd meddwl a fydd yn cynnwys 15 o welyau. Bydd y ganolfan yn cynnig gwasanaeth blaengar sy'n canolbwyntio ar adfer i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl. Dyma'r ganolfan driniaeth cyntaf o'i math yng Nghymru. Bydd y ganolfan nid yn unig o fudd i gleifion, amcangyfrifir hefyd y bydd yn cynhyrchu £300,000 o arbedion i'r GIG.
Mae dau o'r prosiectau diweddaraf i gael cymorth yn cynrychioli buddsoddiadau mewn cynlluniau arbed ynni yn y sector Addysg, sef:
- £200,000 ar gyfer Grŵp Coleg Llandrillo i osod goleuadau LED ar y campws yn Llandrillo-yn-Rhos. Bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu arbedion sy'n rhyddhau arian o £37,000 y flwyddyn a bydd hefyd yn lleihau allyriadau CO2 o 125 o dunelli y flwyddyn
- £551,000 ar gyfer gosod mesurau arbed ynni yng ngholegau Crosskeys, Casnewydd, Brynbuga a Phont-y-pŵl sy'n rhan o Goleg Gwent. Mae'r Coleg yn amcangyfrif y bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu arbedion o £76,000 y flwyddyn ac y bydd yn lleihau allyriadau CO2 o 365 o dunelli y flwyddyn.
Mae'r ddau fuddsoddiad hyn yn cynyddu gweithgarwch y Gronfa yn y sector Addysg i £2.7 miliwn. Maent hefyd yn cefnogi Strategaeth Arbed Ynni Llywodraeth Cymru ac yn cynyddu ein buddsoddiad i leihau allyriadau carbon yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i bron £14 miliwn.
Y pedwerydd cynllun y bydd y Gronfa'n ei gefnogi yw prosiect lleihau absenoldeb oherwydd salwch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Yn 2014, cafodd y Bwrdd gefnogaeth gan Buddsoddi i Arbed i dreialu mesurau cymorth amrywiol i leihau absenoldeb oherwydd salwch. Cynhaliwyd gwerthusiad ffurfiol o'r dull a ddefnyddiwyd gan Abertawe Bro Morgannwg, a daethpwyd i'r casgliad bod absenoldeb oherwydd salwch wedi lleihau 2% yn y maes a dargedwyd. O ganlyniad i lwyddiant y fenter, cyflwynodd y Bwrdd raglen uchelgeisiol i'r Gronfa Buddsoddi i Arbed i gyflwyno'i ddull ledled y sefydliad cyfan. Bydd y buddsoddiad hwn o £547,000 yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r dull hwn ac yn cynhyrchu arbedion blynyddol yn y rhanbarth o £3.3 miliwn y flwyddyn i'r Bwrdd.
Y ddau brosiect olaf rwyf yn eu cyhoeddi yw:
- £3.75 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru i'w alluogi i ail-alinio ei strwythurau staffio a rheoli er mwyn cyflawni ei amcanion craidd yn fwy effeithlon. Bydd y cynllun diweddaraf yn cefnogi'r cam trawsnewid ar gyfer y sefydliad gweddol newydd hwn, ac yn darparu arbedion sy'n rhyddhau arian yn y rhanbarth o £4 miliwn y flwyddyn.
- Darparu £180,000 i'r Comisiynydd Plant. Bydd hyn yn cynorthwyo'r Comisiynydd i ail-alinio adnoddau'r sefydliad i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar ddarparu'i rôl fel cynrychiolydd dros blant a phobl ifanc, ac amddiffyn eu hawliau.