Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gweithlu GIG sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac sy'n meddu ar y sgiliau priodol yn hanfodol er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd.
Er gwaethaf yr heriau a wynebir yn sgil cyni parhaus yn y sector cyhoeddus a gostyngiad o 10% yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwnnw yn parhau eto eleni.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi pecyn gwerth £85 miliwn i gynorthwyo amryw o raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffyddion ac amryw o gyfleoedd hyfforddi ym maes gwyddorau iechyd.
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cynnydd o 10% yn nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys - sef 135 o leoedd ychwanegol - a gomisiynir yn 2016-17. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd o 22% yn 2015-16. Rwy’n falch iawn o gadarnhau mai dyma'r lefel uchaf o leoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd yng Nghymru ers datganoli.
Bydd y buddsoddiad parhaus hwn heb os yn helpu i fodloni’r dyletswyddau newydd a orfodir gan Fil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), sy’n cyrraedd cam 4 heddiw.
Bydd y cynnydd hwn hefyd o gymorth o ran darparu gofal diogel a thosturiol i bobl hŷn a phobl eiddil sydd ag anghenion gofal cymhleth, sef prif ddefnyddwyr gofal acíwt i gleifion mewnol.
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys cynnydd o dros 10% yn nifer y lleoedd hyfforddi ffisiotherapi, sydd hefyd yn ychwanegol at y cynnydd o 26% yn 2015-16.
Bydd cynnydd o dros 10% yn nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer radiograffyddion diagnostig hefyd; daw hyn ar ben y cynnydd o 26% y llynedd. Bydd cynnydd o 10% yn nifer y lleoedd hyfforddi ym maes radiograffeg diagnostig a chynnydd o 5% ym maes radiograffeg therapiwtig - at ei gilydd dyma'r nifer mwyaf o leoedd hyfforddi ym maes radiograffeg ers datganoli.
Unwaith eto byddwn yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer gwyddonwyr clinigol, ar ben y cynnydd o 52% y llynedd. Bydd lleoedd hyfforddi ychwanegol ar gael yn y meysydd a ganlyn: genomeg; ffiseg feddygol; peirianneg fiomeddygol; patholeg moleciwlaidd; biowybodeg; microbioleg; geneteg mewn labordai a chwnsela geneteg. Bydd rhai o’r rhain ar y lefel hyfforddiant gwyddonol arbenigol uwch i ddatblygu gwyddonwyr ymgynghorol i weithio yng Nghyrmu.
Mae’r holl rolau hyn yn chwarae rhan allweddol o ran atal clefydau, gwneud diagnosis a thrin clefydau, ond bydd ein buddsoddiad hefyd yn helpu i gynyddu'r defnydd o dechnolegau, triniaethau a datblygiadau gwyddonol arloesol, a bydd yn datblygu ar enw da GIG Cymru am ragoriaeth wyddonol ym meddygaeth. Bydd y meysydd arbenigol hyn hefyd yn sylfaen ar gyfer dull gweithredu meddygaeth fanwl ar gyfer Cymru.
Byddwn yn cynnal y lefel bresennol o gymorth ar gyfer datblygu arferion uwch a sgiliau estynedig, wrth gynyddu ein buddsoddiad yn natblygiad gweithwyr cymorth gofal iechyd i £1.5 miliwn. Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rhan hanfodol o weithlu'r GIG, a bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod pobl yn cael cymorth i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau priodol i ddarparu gofal. Bydd hefyd yn cynorthwyo datblygiad gyrfa y gweithwyr hynny sy’n dymuno ei gael. At hynny, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac addysg i barafeddygon.
Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn cynyddu capasiti'r gweithlu i helpu'r GIG i ymateb i'r heriau a wynebir yn awr ac yn y dyfodol. Bydd y pecyn hwn yn cynorthwyo staff newydd yn ogystal â chynorthwyo datblygiad parhaus staff presennol.
Bydd y pecyn £85 miliwn ar gyfer hyfforddi yn galluogi 2,697 o fyfyrwyr newydd i ymgymryd â rhaglenni addysg a hyfforddiant yn 2016-17. Bydd cyfanswm y bobl mewn hyfforddiant a lleoedd hyfforddi ar gyfer 2016-17 yn 7,384, o’i gymharu â 6,881 yn 2015-16.
Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau Cynulliad am ddatblygu rôl meddygon cyswllt yng Nghymru mewn datganiad ysgrifenedig diweddarach.