Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhwng 6 Gorffennaf a 20 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyrdd Ein Iechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd at ddibenion ymgynghori. Roedd yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud â GIG Cymru ac roedd hefyd yn gofyn am farn ynghylch y camau deddfwriaethol y gellid eu cyflwyno i wella ansawdd gwasanaethau iechyd ac atebolrwydd, llywodraethu a swyddogaethau sefydliadau'r GIG.
Heddiw, cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad.
Daeth cyfanswm o 170 o ymatebion ysgrifenedig i law ynghyd â sylwadau gan dros 40 o gyfarfodydd i randdeiliaid a dau gyfarfod cyhoeddus mawr.
Roedd yr ymatebion a'r sylwadau'n amrywio'n fawr, o safbwyntiau manwl am aelodaeth ac arweinyddiaeth y byrddau iechyd, i sylwadau am gydweithio a gweithio mewn partneriaeth; ac o syniadau am reoleiddio ac arolygu effeithiol i ddal llais y claf.
Mae’r adroddiad cryno’n nodi’r themâu allweddol a ddeilliodd o'r ymatebion a’r meysydd hynny lle mae cefnogaeth i waith pellach, a'r meysydd hynny lle teimlir nad yw deddfwriaeth yn hyrwyddo newid.
Dyma rai o'r prif feysydd a nodwyd:
- Awydd am ddatblygu ymhellach ddulliau cydweithio a chydweithredu rhwng cyrff y GIG a'u partneriaid er budd dinasyddion, gan adeiladu ar y nodau a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r galluogwyr yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
- Yr angen am weledigaeth gyffredin ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a phwysigrwydd diwylliant, gwerthoedd ac agweddau wrth wella ansawdd ac ymatebolrwydd.
- Cefnogaeth i waith pellach i edrych ar gylch gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;
- Y potensial am ddyletswydd gonestrwydd statudol i hyrwyddo diwylliant o fod yn agored
- Ystyried a yw'r systemau presennol ar gyfer casglu safbwyntiau dinasyddion yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn ddigon cynrychioliadol, ac a oes dyblygu;
- Trefniadau mwy cyson ar gyfer y ffordd y mae rhai gwasanaethau yn cael eu rheoli, yn enwedig y rhai a gynhelir gan sefydliadau eraill
Bydd yr ymatebion manwl yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.