Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae'n dal i fod yn debygol y byddwn yn cyflawni'r targed o roi trethi datganoledig newydd Cymru ar waith ym mis Ebrill 2018, a gosod sail gynaliadwy i'n trefniadau cyllidol ar gyfer y tymor hir.
Dydd Iau diwethaf, cwblhaodd y Pwyllgor Cyllid ei waith ar Gyfnod 2 o’r broses graffu ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Y Bil hwn fydd yn rhoi'r pwerau inni sefydlu trefniadau datganoledig ar gyfer trethi, gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru. Yn amodol ar ystyriaeth bellach gan y Cynulliad, mae'r Bil yn parhau i fod ar y trywydd iawn i ddod yn Ddeddf cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu. Mae gwaith ar y gweill hefyd i sicrhau y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn barod i gyflwyno dau Fil arall yn gynnar yn y Cynulliad nesaf. Bydd y ddau Fil yn sefydlu'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rwy'n croesawu'r trafodaethau adeiladol rydym wedi eu cael gyda'r Pwyllgor Cyllid a gwahanol randdeiliaid o bob cwr o Gymru wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer trethi datganoledig. Gobeithiaf y gallwn barhau â'r dull cydweithredol hwn wrth inni symud ymlaen.
Rydym y gwneud cynnydd da ym mhob maes sydd o fewn ein pwerau.
Fodd bynnag, nid yw datganoli cyllidol yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Mae angen i Lywodraeth y DU barhau i chwarae ei rhan a dangos yr un ymrwymiad ag a ddangosir yma yng Nghymru. Yn benodol, mae angen i ni ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ynghylch y fframwaith cyllidol a fydd yn sail i'n trefniadau cyllido yn y tymor hir. Bydd angen i'r fframwaith hwn bennu maint y gostyngiad a wneir i'r grant bloc yn gyfnewid am y refeniw trethi datganoledig, diffinio'n union beth fydd y fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r cyllid gwaelodol, a nodi'n glir beth fydd y broses ar gyfer adolygu'r cyllid gwaelodol er mwyn sicrhau y bydd Cymru'n parhau i gael ei chyllido'n deg. Byddaf yn parhau i gael trafodaethau adeiladol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddod o hyd i’r ateb priodol i’r materion pwysig hyn.
Nes y cytunir ar fframwaith cyllidol sy'n deg i Gymru ac yn pennu'n glir beth yw'r trefniadau cyllidol tymor hir, ni fyddwn mewn sefyllfa i allu ystyried y cyfle am ddatganoli mwy sylweddol o ran trethi, sef yr hyn a gynigir gan y pwerau dros dreth incwm a ddarperir gan Ddeddf Cymru 2014.
Rydym yn dal i ddisgwyl am benderfyniad Llywodraeth y DU ar ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr - fwy na thair blynedd wedi i Gomisiwn Silk argymell ei bod yn cael ei datganoli , a bron i flwyddyn ar ôl yr ymrwymiad Dydd Gŵyl Dewi gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ystyried yr achos ar gyfer Cymru. Mae hi’n hollol annerbyniol i Lywodraeth y DU ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i'r Alban a Gogledd Iwerddon ond nid i Gymru. Dylid, fan leiaf, ddatganoli teithiau uniongyrchol pellter hir i Gymru, fel sydd wedi digwydd eisoes yng Ngogledd Iwerddon.
Dros yr wythnosau nesaf, gobeithiaf y byddwn yn gwneud cynnydd gyda Llywodraeth y DU ar y cam nesaf o’r agenda bwysig hon, wrth inni geisio bwrw ymlaen ag uchelgais Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag argymhellion trawsbleidiol Comisiwn Silk.