Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r trafodaethau a'r gyfres o fuddsoddiadau diweddar yn brawf o ymrwymiad parhaus Banc Buddsoddi Ewrop i Gymru, ac maent yn arwydd bod Cymru yn lleoliad deniadol i'r Banc fuddsoddi ynddo.

Mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi cefnogi buddsoddiad yng Nghymru ers mwy na deugain mlynedd. Mae wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn o gyllid cyfalaf dros y degawd diwethaf mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys tai cymdeithasol, trafnidiaeth, ynni, dŵr ac addysg.

Rwyf wedi arwain ar ymgysylltu â'r Banc i ymchwilio i'r opsiynau ariannu, gan gynnwys cyllid o Gronfa Ewrop ar gyfer Buddsoddiad Strategol (EFSI), ar gyfer prosiectau cyhoeddus a phreifat arfaethedig yng Nghymru. Yn wir, fel a ddywedais wrth y Cynulliad Cenedlaethol fis Tachwedd y llynedd, Cymru oedd un o'r rhannau cyntaf o'r DU, ac un o'r gwledydd cyntaf yn yr Undeb Ewropeaidd, i gynnal Hyb Cynghori Ewrop ar Fuddsoddi (EIAH) y Banc. Daeth y digwyddiad hwn ag amrywiaeth ehangach o hyrwyddwyr prosiectau cyhoeddus a phreifat ynghyd i ymchwilio i gyfleoedd ariannu yn uniongyrchol â gwasanaethau cynghori arbenigol y Banc.

Ymhlith blaenoriaethau seilwaith y Llywodraeth ei hun – y gellid eu hariannu drwy EFSI – mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi nodi bod buddsoddi yn Rhannau 5 a 6 o'r A465 ac yn y gwaith i ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre ymhlith y prif gyfleoedd buddsoddi yng Nghymru. Mae’r gwaith caled yn parhau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn. At hynny hefyd, mae'r Banc yn dal i gydnabod y potensial i fuddsoddi drwy EFSI mewn prosiectau arloesol yng Nghymru sy’n cael eu harwain gan noddwyr preifat, gan gynnwys y buddsoddiad mewn môr-lynnoedd llanw a Rhaglen Ynni Ynys Môn.
Fel y mae Aelodau'r Cynulliad yn gwybod eisoes, rwyf wedi codi proffil llif o gyfleoedd buddsoddi ychwanegol mewn seilwaith gyda Banc Buddsoddi Ewrop hefyd –  a allent oll yn eu tro ddenu cyllid EFSI. Y flaenoriaeth o hyd ar y cam hwn yw datblygu achosion busnes cadarn ar gyfer pob un o'r cynigion ac ymgymryd â'r trefniadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol, fel bod modd cael cyllid ar gyfer prosiectau cyn gynted ag y bo ei angen. Yn ogystal â'r cynlluniau ar gyfer yr A465 a Felindre, y’u trafodwyd uchod, mae prosiectau cyhoeddus eraill sydd yn yr arfaeth ar gyfer EFSI yn cynnwys:

  • Grant Cyllid Tai II. Nod y cynllun hwn yw darparu 2,000 yn rhagor o dai fforddiadwy, gan ddatblygu ar lwyddiant y Grant Cyllid Tai cychwynnol, sydd wedi bod yn weithredol ers 2014-15. Disgwylir i'r cynllun newydd fod yn weithredol yn 2017-18.
  • Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif: Band B. Nod y cynllun hwn yw rhoi cymorth i gyflawni prosiectau Band B y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Disgwylir i Band B fod yn weithredol yn 2019-20.
  • Rhaglen Rheoli Perygl Arfordiroedd. Nod y cynllun hwn yw ymateb i'r perygl o lifogydd ac erydu y mae ein cymunedau arfordirol yn ei wynebu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd. Disgwylir iddo fod yn weithredol yn 2018-19.
  • Y Metro. Nod y cynllun arloesol hwn yw cynyddu'n fawr gyflymder trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y De, a chynyddu'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael, drwy ddefnyddio cyfuniad o reilffyrdd trwm, rheilffyrdd ysgafn a bysiau cyflym, yn ogystal â gwella'r seilwaith mewn ffyrdd eraill a chynnig tocynnau y bydd modd eu defnyddio ar draws y rhanbarth. Dechreuwyd ar y gwaith ymgynghori masnachol ym mis Mehefin 2015 a chafodd ymgyrch gyhoeddusrwydd ei lansio ym mis Tachwedd. Tynnodd y Comisiwn Ewropeaidd sylw at gryfderau'r cynnig ar gyfer y Metro yn fuan wedi i offeryn yr EFSI gael ei lansio.
  • Twf Gwyrdd Cymru. Bydd y cynllun hwn yn hyrwyddo buddsoddiad sy'n lleihau allyriadau carbon ac sy'n arbed arian i'r sector cyhoeddus. Nod Twf Gwyrdd Cymru yw cefnogi prosiectau seilwaith sy'n gysylltiedig â chynhyrchu ynni mewn modd cynaliadwy, defnyddio adnoddau'n effeithlon a chynhyrchu ynni o wastraff. Mae'r tîm prosiect eisoes wedi llwyddo i ddenu tua £1.5 miliwn o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop ar gyfer datblygu prosiectau drwy gyfleuster Cymorth Ewrop ar gyfer Ynni Lleol (ELENA) - ymdrech ehangach y Banc i gefnogi amcanion polisi hinsawdd ac ynni yr UE.
Yn ystod fy ymweliad â Brwsel yr wythnos ddiwethaf, cefais gyfarfod ag aelodau Cabinet y Comisiynydd Ewropeaidd Marianne Thyssen. Buom yn trafod y posibilrwydd o ddefnyddio cyllid EFSI i gefnogi buddsoddiad mewn prosiectau sy'n rhoi pwyslais ar ganlyniadau economaidd-gymdeithasol a chyfalaf dynol. Byddwn i'n sicr yn annog hyrwyddwyr prosiectau i ystyried yr amcanion hyn wrth ddylunio a chyflwyno prosiectau sy'n ceisio am gyllid EFSI.

Mae EFSI yn dal i fod yn un o bileri'r Cynllun Buddsoddi ar gyfer Ewrop (IPE) ehangach, ac mae Porthol Prosiectau Buddsoddi Ewrop (EIPP) – porthol ar y we sy'n galluogi hyrwyddwyr prosiect yn yr UE i gyrraedd buddsoddwyr posibl ledled y byd - yn elfen hanfodol ohono. Rwy'n deall y bydd Porthol Prosiectau Buddsoddi Ewrop yn dod yn weithredol ym mis Ebrill 2016. Cyn i'r Porthol fynd yn fyw, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn annog hyrwyddwyr prosiect i ddarparu manylion eu prosiectau drwy'r ddolen isod yn awr. Bydd hyn yn golygu bod buddsoddwyr yn gallu gweld rhywfaint o gynlluniau buddsoddi cyn gynted ag y bydd y Porthol yn fyw. Byddaf yn sicrhau bod pob prosiect lle Llywodraeth Cymru yw'r hyrwyddwr prosiect yn cael ei restru ar y Porthol cyn gynted ag sy'n bosibl, a byddwn yn annog hyrwyddwyr prosiectau eraill i wneud yr un fath.
http://ec.europa.eu/priorities/european-investment-project-portal-eipp_en 

Rwy'n disgwyl i'r cydweithio agos hwn â Banc Buddsoddi Ewrop i barhau. O ystyried y posibilrwydd ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo pob cyfle hyfyw i'r Banc, ac i fuddsoddwyr arfaethedig drwy Borthol Prosiectau Buddsoddi Ewrop. Yn fwy na hyn hefyd, mae'n bwysig bod hyrwyddwyr prosiectau preifat ym mhob cwr o Gymru yn manteisio ar bob cyfle i ymchwilio i'r opsiynau ariannu a gynigir gan a thrwy Banc Buddsoddi Ewrop.