Edwina Hart, Y Gweinidog Economy, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Heddiw, rwy'n cyhoeddi’r bwriad i sefydlu Ardal Fenter newydd yng Nglannau Port Talbot.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'r camau cyflym sydd wedi'u cymryd i ymateb i'r cyhoeddiad y bydd swyddi'n cael eu colli yn y diwydiant dur, ac mae amrywiaeth o gamau ymarferol yn cael eu cymryd trwy Dasglu Tata Steel.
Daw'r cyhoeddiad diweddaraf hwn ynghylch sefydlu Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn sgil gwaith gweithredol ac adeiladol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a ffrwd waith Cadwyn Gyflenwi a Busnes y Tasglu gyda'm swyddogion.
Rwy'n ddiolchgar am y gwaith a wnaed i ddatblygu'r cynnig, sydd â'r nod o greu cyfleoedd cyflogaeth newydd a chryfhau sylfaen economaidd yr ardal.
Mae ein profiad mewn rhannau eraill o Gymru wedi dangos bod dynodi Ardal Fenter yn ffordd bwerus o godi proffil ardal ac amlygu ei chryfderau. Yn achos Ardal Fenter Glannau Port Talbot, mae'r rhain yn cynnwys sgiliau da, lleoliad, seilwaith a chysylltedd.
Bydd y Strategaeth ar gyfer yr Ardal Fenter yn seiliedig ar safleoedd cyflogaeth sefydledig yn yr ardal sydd â gallu sylweddol i gefnogi rhagor o fuddsoddiad gan fusnesau, sef Parc Ynni Baglan, Ystâd Ddiwydiannol Baglan, a Dociau Glannau'r Harbwr/Port Talbot. At ei gilydd, mae'r ardal yn cynnwys safleoedd cyflogaeth sy'n bodoli eisoes a thir sy'n addas i'w ddatblygu ymhellach. Bydd yr Ardal Fenter yn cynnwys y safleoedd hyn, a bydd busnesau cymwys ar y safleoedd hynny'n cael budd o fanteision ariannol statws Ardal Fenter. Bydd map o'r ardal ar gael ar ein gwefan maes o law.
Bydd yr Ardal Fenter yn cefnogi'r sector, y gadwyn gyflenwi a'r sylfaen fusnes gyffredinol sy'n bodoli eisoes, a bydd hefyd yn helpu'r ardal i achub ar gyfleoedd i ddenu buddsoddiad newydd a sicrhau twf busnes.
Rydym yn awyddus i gyflwyno amrywiaeth o fentrau yn yr Ardal Fenter, ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y byddwn yn lansio Ardrethi Busnes penodol ar gyfer busnesau cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r effaith a'r gwerth gorau, bydd y cynllun yn canolbwyntio ar fentrau bach a chanolig, ac yn rhoi blaenoriaeth i'r busnesau hynny sy'n dechrau o'r newydd neu sy'n ehangu ac yn cynyddu maint eu gweithlu parhaol. Bydd manylion y meini prawf, a gweithrediad y cynllun, ar gael cyn iddo gael ei lansio ar ein gwefan a thrwy'r sianeli busnes arferol.
Mae'n bleser gennyf hefyd gadarnhau, yn dilyn trafodaethau cadarnhaol a chynhyrchiol iawn â Thrysorlys EM, fod y Canghellor wedi cynnwys Lwfansau Cyfalaf Uwch ar gyfer Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn ei Gyllideb ddoe, yn unol â chytundeb â’m Swyddogion ar y ffiniau. Mae hwn yn ddatblygiad calonogol iawn gan y Canghellor, a bydd yn golygu bod yr Ardal Fenter yn fwy cystadleuol ac yn denu buddsoddiad newydd.
Mae'r cymhellion hyn, ynghyd â'n cymorth ehangach ar gyfer twf a swyddi, a statws Ardal a Gynorthwyir yr ardal, yn golygu bod Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn gynnig cymhellol i fusnesau cynhenid, ac i unrhyw un sy'n awyddus i fuddsoddi a symud yma.
O'n profiad gydag Ardaloedd Menter eraill, gwyddom fod ymgysylltu'n rhagweithiol â rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal yn hanfodol, a byddaf yn ystyried hyn wrth lunio'r trefniadau llywodraethu. Gwn fod Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, yr Awdurdod Lleol, prif gyflogwyr, a rhanddeiliaid eraill yn yr ardal yn cefnogi'r datblygiad hwn. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud ein rhan er mwyn sicrhau bod Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn llwyddiant.