Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiweddaru’r Aelodau ar y cynnydd yn y gwaith o baratoi Rheoliadau i wneud safonau’r Gymraeg. Fe gymeradwyodd y pedwerydd Cynulliad pedwar o Reoliadau i wneud safonau’n benodol gymwys i 80 o gyrff. Erbyn hyn, mae’r cyrff hynny naill ai’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, neu mae’r Comisiynydd yn ymgynghori gyda hwy ar hysbysiadau cydymffurfio drafft. Rwy’n falch i weld y cynnydd, ac yn disgwyl ymlaen i weld cydymffurfiaeth gyda’r safonau yn cael ei orfodi’n effeithiol, a thrwy hynny arwain at fwy o hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg.
Yn eu hanfod, yr hyn mae safonau’n gwneud yw adeiladu ar y Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae’r Mesur yn sefydlu sylfaen gyfreithiol o orfodi cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg. Rydym ar fin dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar Reoliadau drafft i wneud safonau’n benodol gymwys i gyrff o fewn y sector iechyd. Mae hwn mewn ymateb i adroddiad safonau’r Comisiynydd i’r sector, a nododd argymhelliad y dylid edrych ar sut all Safonau weithio o fewn y sector gofal sylfaenol. Rydym am i’r drafodaeth hon ffocysu ar wella gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Mae darparu gwasanaethau o fewn y sector iechyd yn fater emosiynol, ac rydym yn awyddus i gael trafodaeth agored ac ystyrlon gyda’r sector am sut i wella gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
Fel sawl Aelod Cynulliad, roeddwn wedi fy siomi pan gafodd Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016 a oedd yn delio gyda chyrff addysg, eu gwrthod ym mis Mawrth 2016. Rwy’n derbyn bod rhaid i ni ail ymweld â’r Rheoliadau hynny gan ystyried y rhesymau pam nad oedd modd i Aelodau’r Cynulliad eu cefnogi. Rwy’n ymroddedig i gynnwys cyrff addysg o fewn y drefn Safonau, ac yn anelu i ailgyflwyno’r Rheoliadau gerbron y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn.
Fy mlaenoriaeth yw datblygu Rheoliadau i’r cyrff hynny sy’n weddill sydd wedi bod yn destun i ymchwiliad safonau gan y Comisiynydd y Gymraeg. Mae gwaith polisi yn cael ei gynnal i edrych ar sut all Safonau cael eu datblygu i osod dyletswyddau rhesymol a chymesur ar gyrff o’r sector dai, a rhai cyrff gwirfoddol. Rydym hefyd wedi dechrau’r broses o ddatblygu Safonau ar gyfer cyrff o’r sector preifat am y tro cyntaf, sef cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, a’r Post Brenhinol.
Rwy’n derbyn bod yna safbwyntiau gwahanol ynghylch gweithredu’r drefn Safonau; mae cyflwyno’r Safonau wedi annog dadl iach o gwmpas y Gymraeg. Rwy’n obeithiol bydd ymrwymiad y Llywodraeth hon i edrych i ddiwygio Mesur y Gymraeg fel y mae’n sefyll yn rhoi hyder a chefnogaeth wrth i ni symud ymlaen. Mae llwyddiant pob polisi yn ei weithrediad. Mae angen i ni felly edrych ar symleiddio a gwneud y broses o osod dyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg yn fwy eglur.