Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Ar 4 Hydref 2016, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Hadroddiad Blynyddol sy'n arolwg o'r gwaith a wnaed gan ei swyddfa rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016, ac sy’n adlewyrchu blwyddyn gyntaf y Comisiynydd yn ei swydd. Mae'r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth ar faterion allweddol sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae hefyd yn edrych ymlaen at ddarnau allweddol o waith yn y flwyddyn sydd i ddod.
Trafodwyd yr Adroddiad hwn yn y cyfarfod llawn ar 15 Tachwedd, a chroesawais argymhellion fel y rheini sy'n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol i blant ac sy’n atgyfnerthu'r ddarpariaeth ar gyfer eiriolaeth statudol. Dywedais wrth y Gweinidogion fy mod yn bwriadu ymateb yn llawn ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad yn gyfraniad pwysig at y drafodaeth gyson rhwng y Comisiynydd, Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, yr holl bobl a sefydliadau hynny sy’n gweithio gyda phlant, rhieni ac, wrth gwrs, y plant eu hunain.
Mae'r Comisiynydd wedi codi materion sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau nifer o Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet, ac maen nhw i gyd wedi cyfrannu at yr ymateb llawn rwy'n ei gyhoeddi heddiw.
Mae fy ymateb yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar bob argymhelliad, a'r hyn rydym yn ei wneud, neu'n bwriadu ei wneud am y materion y mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw atynt.
Rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar y materion a godwyd gan y Comisiynydd yn ei hadroddiad. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sy'n diogelu plant yn yr modd ag oedolion, drwy gael gwared ar "gosb resymol" fel amddiffyniad. Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn disgwyl cyflwyno'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Cynulliad cyn toriad y Nadolig, ac rydym wedi edrych eto, ac wedi atgyfnerthu ein canllawiau ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a gyhoeddir yn yr wythnosau nesaf.
Rydym yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar y system Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, ond rydym yn ymdrechu i gyflawni yn y maes. Rydym yn buddsoddi bron i £8 miliwn o gyllid newydd yn flynyddol i recriwtio staff arbenigol a datblygu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ym maes iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Gwn fod ymyrryd yn gynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd a lles da yn y tymor hir. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant rwyf wedi amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac adeiladu cymunedau cryf, a chredaf fod y rhain yn cyd-fynd â nifer o’r materion sy'n bwysig i’r Comisiynydd. Mae hyn yn sicr yn her fawr, ond bydd y manteision a ddaw yn sgil y gwaith hwn yr un mor fawr.
Mae trechu tlodi plant yn parhau'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth, ac rwy'n gweithio gyda phob un o Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet i gyflawni amcanion ein Strategaeth Tlodi Plant. Mae ein buddsoddiad cyson yn y blynyddoedd cynnar, a'n ffocws ar gynyddu cyflogadwyedd (cefnogi pobl i gael mynediad at waith, i aros ac i ddatblygu) yn hollbwysig - ac mae nifer o’r ymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen yn cefnogi hyn.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn edrych o'r newydd ar sut y gall y Llywodraeth hon gefnogi cymunedau cryf – sy’n gadarn ac yn gysylltiedig, ac yn gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant.
Rwyf hefyd yn rhoi fy nghefnogaeth lawn i ffocws y Comisiynydd Plant ar hybu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gwasanaethau cyhoeddus a bod yn ddinasyddion da. Yn dilyn cynnig trawsbleidiol llwyddiannus, a arweiniodd at y penderfyniad y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sefydlu senedd ieuenctid barhaol i Gymru, mae'n bleser gen i ddweud bod y Llywydd wedi cyhoeddi ei bwriad i ddechrau gwaith ar hyn yn gynnar ym mhumed tymor y Cynulliad.
Diolch i'r Comisiynydd am y gwaith y mae hi a'i staff wedi’i wneud ar yr adroddiad. Rwy'n ffyddiog y bydd ein hymateb, sydd ar gael drwy'r ddolen isod, yn ei sicrhau hi o'n hymrwymiad i'n dinasyddion ifanc.
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/rights/commissioner/?skip=1&lang=cy