Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-2020.
Wrth lunio ein hail Gynllun Cydraddoldeb pedair blynedd, rydym wedi manteisio ar dystiolaeth ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd a mudiadau o'r Trydydd Sector i ddatblygu’r wyth Amcan Cydraddoldeb, gan sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r prif feysydd blaenoriaeth.
Mae’r Cynllun yn cynnwys yr Amcanion Cydraddoldeb eu hunain, ond hefyd yn cofnodi amrywiaeth o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys Cymru sy’n fwy cyfartal a Chymru sy’n cynnwys cymunedau cydlynus.
Rydym wedi mynd ati mewn ffordd wahanol yn yr ail Gynllun Cydraddoldeb, sef mae’n fwriadol strategol ac yn dangos y ffordd at yr amrywiaeth o weithgareddau penodol a fydd yn gymorth inni gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Mae ein dull yn caniatáu i’n cynulleidfa ymchwilio i’r meysydd sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, a hynny mewn ffordd haws.
Yn gynharach yr wythnos yma, fe gyhoeddais i ddatganiadau ar ein Strategaeth Tlodi Plant, y Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol a’r Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor. Mae’r rhain i gyd o fewn cyd-destun y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yma, ac maent yn rhoi manylion y camau a gymerir gan yr Adrannau i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.
Roedd fy niweddariad ar dlodi plant yn pwysleisio nad oes modd bellach wireddu ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ond nid oes amheuaeth am ein hymrwymiad i'r agenda hon. Byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i wella canlyniadau plant sy’n byw mewn teuluoedd ag incwm isel.
Mae’r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol yn dweud sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid inni – a hynny yng Nghymru ac ar lefel y D.U. – er mwyn symud tuag at gymdeithas yng Nghymru sy’n cynnwys pobl yn ariannol.
Mae’r Cynllun Cyflenwi yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng cynhwysiant ariannol a blaenoriaethau allweddol eraill megis ymdrin â thlodi ac annog camau tuag at gyflogaeth. Yn arbennig, mae yna gysylltiadau cryf gyda’n Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor, sy’n dweud sut byddwn yn gweithio â phartneriaid i sefydlu rhwydwaith cynhwysfawr o ddarparwyd gwybodaeth a chyngor sy’n sicr o ran ansawdd. Mae hefyd yn cyd-fynd â chamau mewn strategaethau a gyhoeddwyd gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys Strategaeth Galluedd Ariannol Cymru a Strategaeth Undebau Credyd Cymru.
Gellir agor y dogfennau drwy'r dolenni isod: