Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
I'r rhai a effeithiwyd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan gynhyrchion gwaed halogedig y GIG, rydw i am roi diwedd ar unrhyw ansicrwydd ynghylch lefel y cymorth ariannol y byddant yn ei chael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Sefydlwyd y cynllun taliadau cymorth ar draws y DU yn gyfan. Fodd bynnag, mae hyn wedi dechrau newid wrth i gynlluniau newydd gael eu cyhoeddi ar gyfer yr Alban a Lloegr.
Rhaid i unrhyw ddiwygiadau yng Nghymru sicrhau'r canlynol:
- nad yw unigolion ar eu colled o gymharu â'r trefniadau presennol
- bod penderfyniadau yn ystyried barn y rhai a effeithiwyd a'r cyrff sy'n eu cynrychioli
- bod unrhyw symudiad tuag at system newydd yn deg ac yn gweithredu'n agored, a bod y gwelliannau'n fforddiadwy ac yn gynaliadwy o fewn y gyllideb iechyd.
Fel cam cyntaf tuag at ddiwygio'r cynllun yng Nghymru, rwyf wedi ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y rhai a effeithiwyd a'r cyrff sy'n eu cynrychioli, a'r angen am effeithlonrwydd gweinyddol. Felly rwyf wedi penderfynu, fel mesur dros dro, y bydd taliadau ar gyfer gweddill blwyddyn ariannol 2016-17 yn aros ar yr un lefelau â'r taliadau yn Lloegr.
Fodd bynnag, efallai bod gan y rhai a effeithiwyd syniadau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwn i'w helpu yn eu bywydau bob dydd ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol. I'n helpu gyda'n trefniadau ar gyfer y dyfodol, rwyf nawr yn gofyn am fwy o sylwadau am gynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen. Byddaf yn dosbarthu arolwg byr i'r rhai sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth, ac fe fydd hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd rhaid dychwelyd yr ymatebion i'r arolygon erbyn 20 Ionawr 2017. Rwyf wedi cytuno i gynnal dau weithdy gyda’r rhai a effeithiwyd, un yn y Gogledd a’r llall yn y De, yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd rhaid i unrhyw drefniadau newydd fod yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy o fewn y gyllideb iechyd, felly bydd cyllid ar gael i weithredu cynllun ar yr un lefel â Lloegr.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos gyda swyddogion yr Adran Iechyd i lunio trefniadau pontio i'r cynllun newydd er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd mor esmwyth â phosib. Bydd ein cynllun newydd yn cael ei gweinyddu yn unol â’r lefel uchel o wasanaeth y mae'r rhai a effeithiwyd yn disgwyl ei derbyn.
Diwygio yn Lloegr
Mae'r taliadau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan yr Adran Iechyd fel a ganlyn:
- O 2017-18, bydd y pum corff sy'n gweinyddu'r cymorth yn cael eu disodli gan un cynllun a chorff sengl.
- Bydd yr holl daliadau blynyddol yn cynnwys £500 o daliad tanwydd gaeaf (ar hyn o bryd yn daliad yn ôl disgresiwn).
- Taliad blynyddol newydd o £3,500 i'r rhai â HCV Cam 1 yn 2016-17.
- Taliad blynyddol o £15,500 i'r rhai â HCV Cam 2 yn 2016-17 (ar hyn o bryd yn £14,749).
- Taliad blynyddol o £15,500 i'r rhai â HIV yn 2016-17 (ar hyn o bryd yn £14,749).
- Taliad blynyddol newydd o £18,500 i'r rhai â HIV/HCV Cam 1 yn 2016-17.
- Taliad blynyddol o £30,500 i'r rhai â HIV/HCV Cam 2 yn 2016-17 (ar hyn o bryd yn £30,000).
- Parhau â'r cyfandaliad o £20,000 ar gyfer rhai sy'n cofrestru o'r newydd â HCV Cam 1.
- Parhau â'r cyfandaliad o £20,000 ar gyfer rhai sy'n cofrestru o'r newydd â HIV.
- Parhau â'r cyfandaliad o £50,000 ar gyfer rhai sy'n symud ymlaen i HCV Cam 2.
- Cyfandaliad unigol newydd o £10,000 i bartner/priod y prif fuddiolwr pan fydd yn marw a bod yr haint HIV a/neu HCV wedi cyfrannu at y farwolaeth.
- Parhau â'r taliadau ar sail ex-gratia ac sy'n ychwanegol i incwm arall y buddiolwr (yn cael eu diystyru ar gyfer trethi/budd-daliadau).
- Parhau i gysylltu taliadau blynyddol â'r mynegai prisiau defnyddwyr.