Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Yn ystod Cwestiynau’r wythnos diwethaf, cododd nifer o Aelodau fater y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r amserlen ar gyfer ei gyflwyno. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau y caiff y Bil ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon.
Cyhoeddais y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft ar 1 Gorffennaf. Mae’r Bil, y Cod drafft a’r rhaglen ehangach i drawsnewid materion yn ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu hadolygu a’u diwygio yng ngoleuni’r ymatebion hyn.
Rwy’n disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno cyn toriad y Nadolig ac rwy’n bwriadu rhyddhau fersiwn nesaf y Cod ADY cyn gynted â phosibl yn ystod y broses graffu.
Yn yr hydref, dywedaf fwy am y Rhaglen Drawsnewid a’r pecyn mesurau y byddwn yn eu creu i gefnogi ein partneriaid cyflenwi wrth inni symud yn effeithiol o’r system bresennol i’r dull newydd.
Yn y cyfamser, rydym yn bwrw ymlaen yn fwy pwrpasol i gyflawni’r Rhaglen Drawsnewid. Rydym hefyd yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid i gydgynllunio a gweithredu ein diwygiadau, gan sicrhau system newydd gadarn, sy’n gweithio’n iawn ac sy’n gynaliadwy. Byddaf yn parhau i roi gwybod i’r Aelodau am y datblygiadau hyn drwy Ddatganiadau rheolaidd yn ystod y broses hon.
Rwy’n gwybod bod Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn gefnogol i ddiwygio hyn yn llwyddiannus a bod y Bil wedi elwa ar yr ymrwymiad cyffredinol i’r broses o’r dechrau. Gallaf sicrhau’r Aelodau y byddaf yn cymryd camau i gyflwyno’r Bil yn ddi-oed ac rwy’n gobeithio y bydd yn cwblhau ei daith drwy brosesau’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn cael Cydsyniad Brenhinol erbyn hydref 2017. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob rhan o’r Siambr drwy gydol y broses hon er mwyn sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial i’r eithaf.