Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Ar 17 Mehefin, ynghyd â’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn chweched Uwchgynhadledd ar hugain y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Glasgow. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Brif Weinidog Llywodraeth yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon MSP. Roedd Gweinidogion arweiniol o Aelod-weinyddiaethau eraill y Cyngor yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys:
- An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon
- Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrhydeddus David Mundell AS, o Lywodraeth y DU
- Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Mrs Arlene Foster MLA, a'r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin Mc Guiness MLA,
- Prif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Allan Bell MHK,
- Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr Ian Gorst,
- Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey, y Dirprwy Gavin St Pier.
Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau gydweithio a rhannu arferion da ynghylch y materion cyffredin rydym yn eu hwynebu. Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i 'r Aelod-weinyddiaethau ystyried blaenoriaethau Aelodau'r Cyngor a chymorth gofalwyr ym mhob un o'r Aelod-weinyddiaethau.
Roedd y digwyddiadau trasig yn Birstall y diwrnod blaenorol wedi cael effaith ddofn ar yr uwchgynhadledd eleni. Talodd y Cyngor deyrnged i Jo Cox a chafwyd munud o dawelwch.
I agor yr uwchgynhadledd, cafwyd cyfarfod Gweinidogol o sector gwaith Cynhwysiant Cymdeithasol y Cyngor. Cynrychiolwyd Cymru gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a adroddodd yn ôl i'r uwchgynhadledd. Tynnodd y Gweinidog sylw at y nifer cynyddol o ofalwyr yng Nghymru, y disgwylir iddo ddyblu yn y 15 mlynedd nesaf, a phwysigrwydd cefnogi gofalwyr yn eu rôl. Cyfeiriodd at y ffaith fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi dod i rym ym mis Ebrill a’i bod yn gam pwysig o ran darparu'r gefnogaeth honno, drwy roi i ofalwyr yr un hawliau â'r sawl y maent yn gofalu amdanynt. Esboniodd y Gweinidog sut y bydd y Ddeddf yn cefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau newydd mewn perthynas â gofalwyr, asesu eu hanghenion, eu cefnogi a rhoi llais iddynt. Yn ogystal, pwysleisiodd y Gweinidog fod gan gyflogwyr rôl bwysig o ran nodi pwy sy'n ofalwyr a chynnig cymorth i ofalwyr, a bod angen eu cefnogi hwythau hefyd.
Roedd y Gweinidog yn cefnogi cynigion y Cyngor i ganolbwyntio ar: gofalwyr ifanc, rhai sy'n gofalu am y boblogaeth gynyddol o bobl hŷn, nodi pwy sy'n ofalwyr a ffyrdd o ddefnyddio technoleg newydd i helpu gofalwyr.
Yn ystod y drafodaeth gydag aelodau'r Cyngor ar eu blaenoriaethau, fe drafodais y refferendwm a gynhelir cyn hir. Yn ogystal, fe dynnais sylw at rai o'r meysydd y byddaf yn canolbwyntio arnynt yn ystod y Cynulliad hwn, megis caniatáu i’n heconomi dyfu a chodi safonau mewn ysgolion.
Rhannais ein cynlluniau i ymestyn gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos ar gyfer rhieni sy'n gweithio sydd â phlant 3-4 oed. Bydd hyn yn rhoi'r dechrau gorau i blant, gan gefnogi rhieni yn y farchnad lafur ac ysgogi ein heconomi yr un pryd. Bydd ein hymrwymiad i ddarparu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn cefnogi'r nod hwn ymhellach. Bydd yn galluogi pobl sy'n gweithio i gyflawni mwy, yn galluogi pobl ddi-waith i ddod o hyd i waith ac yn caniatáu i economi Cymru gyfan gryfhau.
Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod y chweched Uwchgynhadledd ar hugain mewn hysbysiad ar y cyd.
https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqués/9. Communique FINAL.pdf