Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi diweddariad ar brif gamau gweithredu'r Strategaeth Ddŵr i Gymru ers ei chyhoeddi ym mis Mai 2015. Mae'r Strategaeth yn nodi sut y credwn y dylid rheoli ein gwasanaethau a'n hadnoddau dŵr. Mae'n cyfleu ein cyfeiriad strategol a'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer polisi dŵr o dan chwe phrif thema. Nodir y rhain, ynghyd a'r cynnydd a wnaed, yn yr atodiad atodedig.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dŵr yw sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ag amgylchedd dŵr sy'n ffynnu a reolir yn gynaliadwy er mwyn cynnal cymunedau iach, busnesau ffyniannus a bioamrywiaeth. Rydym am i bobl Cymru gael gwasanaethau dŵr o'r radd flaenaf, sy'n rhoi gwerth am arian, lle defnyddir dŵr yn effeithlon, yn ddiogel ac â pharch gan bawb.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer y dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru wedi cynyddu i 103, ac yn ôl canlyniadau'r llynedd, Cymru sydd â'r ansawdd dŵr ymdrochi gorau ar ynys Prydain.
Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wella mynediad at wasanaethau dŵr teg a fforddiadwy, sef blaenoriaeth allweddol yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a'r Nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi cyhoeddi ein Canllaw Codi Tâl i'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr, Ofwat. Mae ein Canllaw Codi Tâl, ynghyd â'n Canllaw Tariffau Cymdeithasol a gyhoeddwyd eisoes i Gwmnïau Dŵr Cymru ac Ofwat, yn sicrhau y cedwir biliau ar lefel fforddiadwy a bod gan gwsmeriaid ddewis o opsiynau codi tâl, gan helpu'r rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf o dlodi a gwarchod grwpiau agored i niwed.
Darperir amrywiaeth o gynlluniau cymorth gan Gwmnïau Dŵr Cymru sy'n darparu tariffau a chynlluniau talu a dargedir yn briodol i helpu cwsmeriaid sydd o bosibl yn cael anhawster fforddio talu eu biliau. Rydym yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y cynlluniau hyn yn ofalus ac yn croesawu camau diweddar a gymerwyd gan Dŵr Cymru i gynyddu trothwy cymhwyso incwm aelwyd gan hyrwyddo mynediad ehangach at gymorth. Gwyddom fod mynediad at gyngor diduedd am ddim yn helpu pobl i leihau biliau ynni a gwneud eu cartrefi'n fwy ynni effeithlon. Mae'r gwasanaeth cymorth a ddarperir gan NYTH, cynllun allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd, yn cael ei ymestyn i gwsmeriaid Cwmnïau Dŵr Cymru. Mae gwybodaeth am yr ystod o gymorth sydd ar gael yn cael ei rhannu gydag Aelodau'r Cynulliad a darparwyr gwasanaeth cyngor allweddol gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Rydym yn cefnogi'r broses o ddatblygu dull o reoli adnoddau naturiol ar sail ardal. Mae hyn yn mynd law yn llaw â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig, gan ymgorffori ein dull o weithredu a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn egwyddor datblygu cynaliadwy ein Hamcanion Llesiant. Mae'n hanfodol fod cymunedau yn rhan o brosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'u hadnoddau naturiol ar sail ardal, a gyda Cyfoeth Naturiol Cymru rydym yn cynorthwyo ac yn annog dulliau Rheoli Basn Afon mwy rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rydym yn diogelu adnoddau dŵr ac ecosystemau hanfodol drwy ein rhaglen i drechu llygredd gwasgaredig. Mae gweithredu'r Rheoliadau Atal Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2015 yn gam pwysig tuag at leihau llygredd a achosir gan ollyngiadau olew. Nod ein gwaith parhaus i ddiwygio'r system trwyddedu tynnu dŵr yw sicrhau y caiff anghenion cyflenwad dŵr busnesau a diwydiant eu cydbwyso'n deg â dull cynaliadwy o reoli adnoddau dŵr.
Rydym yn gwella'r ffordd y caiff ein gwasanaethau dŵr eu cynllunio a'u rheoli, lle mae cymorth ac ymwneud ein partneriaid cyflawni yn rhan annatod a hanfodol o ran sicrhau hynny. Bydd ein Hegwyddorion Arweiniol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni'n llywio Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr a ddatblygir gan Gwmnïau Dŵr Cymru yn y dyfodol. Bydd y rhain, ynghyd â'n Datganiad Blaenoriaethau Strategol i Ofwat, a gyhoeddir yn hwyrach eleni, yn cyfleu ein disgwyliadau polisi i'n partneriaid cyflwyno allweddol, gan sicrhau bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein Strategaeth Ddŵr i Gymru a fframwaith deddfwriaethol Cymru yn sail i'r holl waith o gynllunio a rheoli ein hadnoddau dŵr.
Byddwn yn parhau i gyflawni'r Strategaeth Ddŵr i Gymru. Ei brif gamau gweithredu yw rhoi rhagolwg o'n blaenoriaethau yn y dyfodol a gosod cyfeiriad strategol hirdymor ar gyfer polisi dŵr yng Nghymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad yr haf er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os hoffai aelodau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.
Atodiad
Strategaeth Ddŵr i Gymru
Cefnogi'r broses o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy
Diweddariad i'r Cynllun Gweithredu, 2015 i 2016
1. Dŵr ar gyfer natur, pobl a busnesau
Ein blaenoriaethau yw sicrhau dull o reoli ein hadnoddau dŵr yn gynaliadwy ac ar sail ardal nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cefnogi Paneli Cyswllt Rheoli Basn Afon gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, fel fforwm allweddol ar gyfer cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o gynllunio a gwneud penderfyniadau adnoddau naturiol ar sail ardal.
- Bwrw ymlaen ar y gwaith o ddiwygio'r system trwyddedu tynnu dŵr gan ymgysylltu'n eang â'r sector dŵr a sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion cyflenwi a rheoli adnoddau dŵr yn gynaliadwy. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU ac yn disgwyl cyhoeddi Bil (Cymru a Lloegr) drafft yn yr hydref.
- Gweithredu Rheoliadau Atal Llygredd (Storio Olew) (Cymru) 2015, er mwyn gwarchod ansawdd dŵr, bioamrywiaeth ac ecosystemau hanfodol drwy leihau llygredd olew.
2. Cynllunio a rheoli ein gwasanaethau dŵr
Ein blaenoriaethau yw rheoli adnoddau'n gynaliadwy gan gydbwyso anghenion tymor byr a datblygu adnoddau dŵr a systemau cyflenwi i ddiwallu anghenion hirdymor. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cyhoeddi Cyfarwyddyd Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2016 ac Egwyddorion Arweiniol Llywodraeth Cymru ar gyfer Datblygu Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr ar gyfer 2020 a thu hwnt.
3. Darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid
Ein blaenoriaethau yw sicrhau mynediad at systemau dŵr a charthffosiaeth teg a fforddiadwy. Yn unol â Strategaeth Tlodi Plant Cymru i helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm eu haelwydydd drwy gyngor ar ddyledion a materion ariannol, a thrwy fesurau i fynd i’r afael â’r premiwm tlodi, rydym wedi gwneud y canlynol:
- Hyrwyddo fforddiadwyedd dŵr a thariffau cymdeithasol i'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr, Ofwat a Chwmnïau Dŵr. Mae Dŵr Cymru a Dŵr Dyffryn Dyfrdwy wedi rhoi cymorth i gwsmeriaid a fyddai fel arall wedi cael anhawster talu eu biliau dŵr. Mae Dŵr Cymru wedi cynyddu trothwy cymhwyso incwm aelwyd o £12,500 i £15,000 er mwyn galluogi mwy o bobl i elwa o'i gynllun cymorth.
- Meithrin cysylltiadau rhwng NYTH, cynllun allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd, i ddarparu cyngor diduedd am ddim i gwsmeriaid cwmnïau dŵr. Mae Dŵr Cymru eisoes yn cael atgyfeiriadau ychwanegol oddi wrth NYTH, a bydd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn dechrau derbyn atgyfeiriadau o 1 Medi. Mae gwybodaeth am yr ystod o gymorth sydd ar gael yn cael ei rhannu gydag Aelodau'r Cynulliad a gwasanaethau cymorth allweddol gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
- Cefnogi’r gwaith o wella canllaw dylunio a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae ein gwaith yn sicrhau y caiff safleoedd newydd eu dylunio i alluogi Sipsiwn a Theithwyr i gael mynediad uniongyrchol at gwmnïau dŵr a chynlluniau cymorth. Mae Dŵr Cymru yn trefnu bilio uniongyrchol ar gyfer preswylwyr ar y safle newydd diweddar yng Nghonwy.
- Datblygu Canllaw Codi Tâl lefel uchel ar gyfer Ofwat, i'w ystyried gan Ofwat wrth lunio rheolau ynglŷn â pha brisiau y gall cwmnïau dŵr a charthffosiaeth eu codi ar gwsmeriaid yn eu biliau. Comisiynu’r gwaith o ddatblygu canllaw codi tâl mwy manwl ar gyfer codi tâl ar ddatblygwyr, codi tâl am swmp-gyflenwad a phrisio ar gyfer mynediad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Ofwat ynglŷn â fframweithiau deddfwriaethol a pholisi Cymru.
4. Diogelu a Gwella Ansawdd Dŵr Yfed
Ein blaenoriaethau yw cynnal safonau uchel presennol dŵr yfed cyhoeddus a gwneud gwelliannau i sicrhau bod gennym gyflenwad dŵr yfed a seilwaith diogel a dibynadwy. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Diwygio ein deddfwriaeth dŵr yfed er mwyn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â Radon, yn unol â rheoliadau Euratom.
- Cynnal gwerthusiad cychwynnol o Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010, a fydd yn llywio adolygiad o'r ddeddfwriaeth, i sicrhau bod safonau ar gyfer ansawdd dŵr mewn Cyflenwadau Dŵr Preifat yn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn effeithiol.
- Gyda'r Bartneriaeth Iechyd Dŵr, rydym wedi bwrw ymlaen o ran y gwaith o ymchwilio i opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r risg o blwm yn trwytholchi i mewn i gyflenwadau dŵr. Bydd hyn yn llywio'r gwaith o leihau risgiau hirdymor oddi wrth bibelli a gosodiadau plwm a ddefnyddiwyd mewn gwaith plymio.
5. Systemau draenio a charthffosiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif
Ein blaenoriaethau yw sefydlu dull strwythuredig a'r fframwaith sydd eu hangen er mwyn rheoli'r rhwydwaith draenio a charthffosiaeth ar y cyd yn yr hirdymor fel bod y seilwaith yn addas at y diben yn y 21ain ganrif a thu hwnt. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cyhoeddi safonau cynghori cenedlaethol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy a fydd yn galluogi dylunwyr, datblygwyr eiddo, Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill i ddangos eu bod wedi ystyried cyngor cynllunio Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a pherygl llifogydd.
- Dechrau gwaith ar fapio ac adolygu perchnogaeth systemau draenio presennol a deddfwriaeth gysylltiedig a fydd yn llywio gwerthusiad o arferion a deddfwriaeth draenio a strategaeth ar gyfer datblygu systemau draenio cynaliadwy ar raddfa dalgylch.
- Gweithredu canllawiau diwygiedig sy'n symleiddio prosesau a threfniadau datrys anghydfodau systemau carthffosiaeth ar gyfer cymunedau gwledig o dan Adran 101A o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991.
6. Cefnogi Dulliau Cyflawni
Mae ein blaenoriaethau yn canolbwyntio ar ddulliau cyflawni sy'n cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu dull mwy integredig a chynaliadwy o reoli ein systemau dŵr a gwasanaethau cysylltiedig. Rydym wedi gwneud y canlynol:
- Cynnal gwaith gyda Llywodraeth y DU a'r sector dŵr i symud Cymru tuag at setliad datganoli newydd. Ein hamcan yw cyflawni setliad hirdymor i Gymru yn seiliedig ar yr egwyddor o weithredu argymhellion Silk yn llawn o ran sicrhau y caiff pob mater sy'n ymwneud â dŵr a charthffosiaeth ei ddatganoli ac y caiff pŵer unochrog Llywodraeth y DU i ymyrryd mewn perthynas ag adnoddau dŵr yng Nghymru ei ddiddymu.
- Dechrau ar waith i ddatblygu Datganiad Polisi Strategol statudol a fydd yn sicrhau y caiff gwaith Ofwat ei lywio gan fframwaith deddfwriaethol a blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn datblygu rôl Fforwm Dŵr Cymru sy'n dwyn ynghyd bartneriaid ac sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Ddŵr a rheoli'n hadnoddau dŵr a'n hecosystemau mewn ffordd gydlynus a chynaliadwy.