Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Caiff ail adroddiad blynyddol ar weithredu darpariaethau cyllid Deddf Cymru 2014 ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
O dan adran 23 o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran gwireddu’r darpariaethau o dan Ran 2, hyd at flwyddyn ar ôl i'r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys y newyddion diweddaraf ynghylch y cynnydd a wnaed o ran rhoi Awdurdod Cyllid Cymru ar waith.
Mae Deddf Cymru 2014 yn sefydlu ystod o bwerau cyllidol i Gymru. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys datganoli treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi, benthyca i gefnogi buddsoddi cyfalaf ac i reoli amrywiadau cyllidebol yn sgil datganoli trethi, a'r gallu i ddeddfu ar gyfer gweithdrefnau cyllidebol y Cynulliad.
Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer creu trethi datganoledig newydd eraill ar sail achosion unigol a chyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru yn y dyfodol. Y dyddiad targed ar gyfer rhoi mwyafrif y pwerau newydd ar waith yw mis Ebrill 2018.
Gwelwyd cynnydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf ym mhob agwedd ar yr agenda ar gyfer diwygio cyllidol. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Paratoadau ar gyfer gweithredu datganoli cyllidol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni'n rhoi braslun o'r cynnydd hwn. Mae’r maes hwn yn un cymhleth a chaiff hyn ei gydnabod gan yr Archwilydd Cyffredinol. Er hyn, mae Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r prif heriau fydd yn ei hwynebu ac mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau llwyddiant i ddiwygio cyllidol yng Nghymru.
Roedd y cerrig milltir nodedig yn 2016 yn cynnwys pasio'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 sy'n sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, yn ogystal â chyflwyno'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) eleni. Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi'n disodli’r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018.
Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn arwain trafodaethau ar ran Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynghylch y fframwaith cyllidebol, a fydd yn nodi sut y bydd grant bloc Cymru'n cael ei addasu ar ôl datganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi’n llwyr a threth incwm yn rhannol. Mae'r trafodaethau hyn wedi bod yn rhai adeiladol ac mae cynnydd da'n cael ei wneud.
Drwy gydol y rhaglen waith hon, mae Llywodraeth Cymru wedi elwa ar gyngor a chefnogaeth nifer o sefydliadau ac unigolion. Rwyf yn ddiolchgar am eu cymorth ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'r ail adroddiad blynyddol i'w weld yma:
http://gov.wales/funding/fiscal-reform/treasury-papers/wales-act-annual-reports/?lang=cy