Mick Antoniw AC, Y Cwnsler Cyffredino
Mae’r moroedd o gwmpas Cymru wedi’u bendithio ag amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cael eu gwarchod gan gyfraith Cymru, y DU ac Ewrop. Mae’r adnoddau naturiol hyn a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu yn hollbwysig i helpu’n cymunedau glan-môr i ffynnu trwy bysgota a thwristiaeth, yn ogystal â bod yn bwysig o safbwynt diwylliannol. Mae’n hanfodol ein bod yn rheoli’r adnoddau hyn yn effeithiol ac yn broactif er lles ein ffyniant yn y dyfodol, gan warchod ein hadnoddau naturiol yn ogystal â diogelu cyfleoedd pysgotwyr cyfrifol sy’n dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol. Bydd hynny yn ei dro yn cryfhau’n cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb dros reoli a gwarchod moroedd a holl adnoddau naturiol Cymru o ddifrif. Rydym yn deall bod defnyddio’n hadnoddau heb reolaeth yn gallu arwain at arferion anghynaliadwy sy’n gallu achosi difrod a dirywiad. Rydym felly’n cadw rheolaeth lem ar bysgota a gweithgareddau eraill yn ein moroedd. Gan ddefnyddio nifer o asedau – fel ein Cychod Patrolio Pysgodfeydd - mae Swyddogion Gorfodi Morol Llywodraeth Cymru yn gorfodi amrywiaeth o reoliadau ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pobl yn cadw atyn nhw. Lle gwelwn dystiolaeth bod trosedd wedi’i chyflawni, bydd ein Swyddogion Gorfodi Morol yn ymchwilio i’r mater ac yn cymryd y camau priodol. Gallai hynny amrywio o gyngor ysgrifenedig i rybuddion ysgrifenedig a hyd yn oed, erlyniad.
Yng Nghymru, mae erlyniadau’n cael eu cynnal o dan ddeddfwriaeth pysgodfeydd yn enw’r Cwnsler Cyffredinol. Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae rhyw 15 o ymchwiliadau’r flwyddyn wedi’u cynnal, gyda rhyw 30% ohonyn nhw’n arwain at achos llys.
Yn fwy diweddar, ar ôl i’n Swyddogion Gorfodi Morol ymchwilio a chymryd camau gorfodi, cafodd tri chwch gosb rhyngddynt o £62,000 y mis hwn gan Lys Ynadon Hwlffordd am droseddau'n ymwneud â physgota am gregyn bylchog.
Cafodd perchennog a chapten y cwch pysgota Lisa Leanne gyfanswm o £6,070 o gosbau a chostau am bysgota am gregyn bylchog yn anghyfreithlon yng Ngogledd Cymru. Cafodd perchenogion a chapteiniaid y cwch pysgota Cloudy £14,309 o gosbau a chostau am bysgota am gregyn bylchog pan nad oedd y ddyfais tracio’r cwch yn gweithio. Rhoddwyd cyfanswm o £14,309 o gosbau a chostau i berchennog a chapten y cwch pysgota Morning Star am bysgota am gregyn bylchog pan nad oedd y ddyfais tracio’r cwch yn gweithio ac am droseddau'n ymwneud â'r llyfr lòg. Yn achos y Morning Star, roedd y cosbau'n cynnwys dirwy o £22,769 am werth yr hyn a oedd wedi'i ddal yn anghyfreithlon.
Mae'r erlyniadau llwyddiannus hyn yn rhybudd clir i eraill fy mod i, yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, a bod y Llysoedd hefyd, yn cymryd troseddau'n ymwneud â physgota yng Nghymru o ddifrif a byddwn yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddiogelu’n hadnoddau naturiol morol er lles cenedlaethau heddiw ac yfory.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.