Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arweiniodd y Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru 2010-2015 at nifer o welliannau i ganlyniadau pobl Cymru a’r gwasanaethau’n gyffredinol. Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiad yn y nifer sy'n beichiogi yn yr arddegau, gwell diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a darpariaeth well o wasanaethau iechyd rhywiol integredig ledled Cymru.
Fis diwethaf, cyhoeddwyd y tueddiadau diweddaraf yng nghyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ôl yr hyn a welir mewn clinigau iechyd rhywiol integredig, ac mae’r data’n dangos gwelliant sylweddol. Mae nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV wedi bod yn uchel yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae data a gadarnhawyd gan labordy ar gyfer chwe mis cyntaf 2016 yn dangos gostyngiad yn nifer yr achosion o siffilis, gonorea a HIV o gymharu â'r un cyfnod yn 2014. Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr achosion newydd gyda HIV wedi gostwng 50%, siffilis 31% a dafadennau gwenerol a gonorea 12%.
Mae hyn yn galonogol ond ni fedrwn laesu ein dwylo, rhaid sicrhau ein bod yn cymryd camau i gynnal y momentwm hwn. Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod rhaglen waith barhaus ar y gweill. Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd rhywiol Cymru a disgwylir iddo ddechrau'n gynnar yn 2017. Ynghyd ag agweddau eraill, bydd yn canolbwyntio ar y canlynol:
- dod â chynrychiolwyr y rhai sy'n chwarae rhan yn y gwaith o wella iechyd rhywiol y boblogaeth ynghyd;
- cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r peryglon i'r boblogaeth, anghenion y boblogaeth a'r model o ddarparu gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol integredig yng Nghymru, a chyflwyno argymhellion ynghylch y ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru;
- ystyried materion sy’n ymwneud â chyfrinachedd data a safonau proffesiynol meddygol mewn perthynas â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (Heintiau Gwenerol) 1974.
Bydd yr adolygiad hwn yn arwain at greu casgliad o flaenoriaethau ar gyfer iechyd rhywiol yng Nghymru, fydd yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Meddygol.
Bydd peth cynnydd yn digwydd cyn yr adolygiad. Comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a minnau Iechyd Cyhoeddus Cymru i sefydlu grŵp arbenigol annibynnol ar HIV yng Nghymru. Bydd y grŵp yn adolygu'r dystiolaeth o ran pa mor effeithiol yw cyffuriau proffylactig cyn-gysylltiol (PrEP) wrth atal HIV a'r goblygiadau ar gyfer cael heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Ni fydd yr adolygiad hwn yn mesur yr effeithiolrwydd clinigol yn erbyn y costau gan mai gwaith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yw hyn. Fodd bynnag, mae’r grŵp arbenigol wedi cael cais i roi darlun cynnar o natur arloesol ac, o bosib, drawsnewidiol y feddyginiaeth. Disgwylir cael argymhellion y grŵp arbenigol erbyn diwedd 2016.
Yn 2017, yn sgil argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (y Cyd-bwyllgor), byddwn yn cyflwyno rhaglen frechu newydd y Feirws Papiloma Dynol ar gyfer dynion sy'n cael rhyw â dynion. Mae tystiolaeth ddiweddar wedi amlygu y gallai brechu yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol amddiffyn unigolion rhag ystod ehangach o ganser sydd, o bosib, yn fwy cyffredin mewn dynion sy’n cael rhyw â dynion.
Bydd y rhaglen newydd yn benodol ar gyfer dynion hyd at 45 oed sy'n cael rhyw â dynion ac sy'n mynd i glinigau iechyd rhywiol arbenigol. Bydd unigolion eraill sydd â pherygl uwch o gael haint y Feirws Papiloma Dynol yn cael cynnig brechiad yn seiliedig ar farn glinigol. Fel rhan o'u hadolygiad, mae'r Cyd-bwyllgor hefyd yn ystyried y manteision o gyflwyno'r brechiad hwn yn gyffredinol i bob bachgen yn ystod y glasoed. Disgwylir i ganfyddiadau'r Cyd-bwyllgor gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2017.
Bydd fy swyddogion a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod atal heintiau’n dod yn rhan annatod o ddewisiadau bywyd bob dydd unigolion i osgoi niwed a salwch yn y tymor hir a lleihau anghydraddoldebau iechyd.