Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Mae’r A48 tua’r dwyrain yn Sir Gaerfyrddin wedi’i chau ar hyn o bryd er mwyn i waith gael ei wneud ar biblinell sy’n cludo mathau gwahanol o danwydd o burfa Penfro.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan drydydd parti. Fodd bynnag, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol mewn cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd.
Mae’r contractwr wedi cynnal ymarfer cysylltiadau cyhoeddus cynhwysfawr sy’n cynnwys canolfan galw heibio er mwyn ymgynghori â’r cyhoedd yn neuadd y pentref yn Llangynnwr, ac wedi dosbarthu llythyrau i dros 1,200 eiddo. Mae hefyd wedi ymgynghori â’r cyngor cymuned lleol, rhoi hysbysiadau yn y papurau lleol a chyhoeddiadau rheolaidd ar radio lleol. Hefyd, bu cysylltiadau helaeth rhwng yr heddlu a’r gwasanaethau argyfwng, ysgolion lleol a ffermwyr a allai gael eu heffeithio gan y gwaith.
Bydd y ffordd ar gau am hyd at chwe wythnos. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mor gyflym ag sy’n bosibl ac mae gweithwyr ar y safle saith diwrnod yr wythnos yn ystod golau dydd. Mae gweithio dros nos ar y safle hwn yn peri anawsterau am fod rhywogaethau o anifeiliaid gwarchodedig yno ac am fod angen sicrhau diogelwch y gweithlu. Bydd gwaith yn digwydd dros nos ar gyfer tasgau nad ydynt yn peri risg uchel i iechyd a diogelwch.
Hefyd, rydym wedi trefnu bod cryn dipyn o’n gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei wneud ochr yn ochr â’r prosiect hwn er mwyn lleihau’r angen i gau rhagor o lonydd. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys adnewyddu draeniau hidlo, ceblau uwchben a marciau ar y ffordd; glanhau draeniau; casglu sbwriel; a chynnal a chadw ffosydd.
Rydym yn deall bod cau ffyrdd yn gallu peri rhwystredigaeth i drigolion lleol ond rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod hyn yn achosi cyn lleied o anhwylustod ag sy’n bosibl. Mae’r monitro sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn awgrymu bod y traffig yn llifo’n gymharol hwylus. Mae camerâu cyflymder yn cael eu defnyddio i sicrhau bod gyrwyr yn cadw o fewn y terfynau cyflymder dynodedig.