Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Roedd y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu yn ceisio sefydlu dull newydd, integredig o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru gan ganolbwyntio ar yr unigolyn. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014 ac a ddaeth i rym ar 6 Ebrill eleni, yn gam sylweddol ar y daith hon. Cam arall yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Mae'n darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn gosod trefn reoleiddio sy'n gyson â'r newidiadau sy'n cael eu cyflawni drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan sefydlu system reoleiddio ac arolygu a fydd yn cynnal hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal urddasol, diogel a phriodol. Ac fe fydd yn ehangu pwerau Cyngor Gofal Cymru i gynnwys ysgogi, cefnogi a goruchwylio gwelliannau, gan ei ailenwi yn briodol iawn fel “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Prif bwrpas y Ddeddf yw creu system effeithiol ac ymatebol o reoleiddio ac arolygu – un sy'n canolbwyntio ar welliannau ac ar ganlyniadau i bobl, yn diweddaru'n ffordd o reoleiddio'n darpariaeth a’n gweithlu gofal cymdeithasol, yn adeiladu ein gallu i addasu i newidiadau yn y sector yn y dyfodol ac yn ein helpu i ymateb yn effeithiol i ganfyddiadau am arfer da - gan geisio troi'r boddhaol i fod yn dda, a'r da yn ardderchog.
Mae'n system rheoleiddio ac arolygu newydd yn ymwneud â gwelliannau a chodi safonau, yn ogystal ag ymateb yn gyflym, yn glir ac yn effeithiol pan fo pethau'n mynd o'i le. Bydd yn gryfach, gan ei gwneud yn haws i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), fel rheoleiddiwr, oruchwylio'r holl wasanaeth mae sefydliad yn ei ddarparu. Bydd darparwyr yn ei gweld yn haws cofrestru ac fe fydd dinasyddion yn ei gweld yn haws cyrraedd at wybodaeth am ddarparwyr. Ar yr un pryd, bydd gwell system rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol dan oruchwyliaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yn helpu gweithwyr gofal i ddatblygu eu sgiliau a darparu'r gofal gorau o fewn eu gallu. I ddiogelu'r cyhoedd, bydd cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru o weithwyr gofal yn caniatáu i ni rwystro pobl rhag gweithio yn y maes gofal os ydynt yn camddefnyddio'r ymddiriedaeth a'r grym sy'n gysylltiedig â swyddogaeth bwysig o'r fath.
Roedd Deddf 2016 yn gosod dull gweithredu cyffredinol y drefn rheoleiddio ac arolygu a amlinellir uchod; bydd manylion y system yn cael eu gosod mewn is-ddeddfwriaeth, gan gynnwys rheoliadau, cod ymarfer a chanllawiau. Rydym bellach ar fin rhannu gyda’r cyhoedd gam cyntaf yr is-ddeddfwriaeth a fydd, ynghyd â’r Ddeddf, yn gwireddu'r uchelgais hwn.
Felly hoffwn ddweud gair am y daith hyd yma. Cyhoeddwyd datganiad o fwriad polisi pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Chwefror 2015. Roedd yn nodi'r cynigion cyffredinol ar gyfer arfer pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth dan y Ddeddf. Mae'r gwaith o ddatblygu'n cynigion ar gyfer y rheoliadau hyn wedi'i seilio'n gadarn ar y bwriad polisi a gyhoeddwyd, ac a brofwyd gan bartneriaid allweddol. Er mwyn cyflawni'n polisi mewn ffordd ymarferol, mae'r fframwaith statudol yn cael ei ddatblygu mewn dau gam gyda chryn dipyn o drafod gyda'n rhanddeiliaid. Y bwriad yw i’r sector a'r rheoleiddwyr gael y cyfle gorau posib i lunio'r cynigion ac amser i'w gweithredu. Gan ddefnyddio'r model llwyddiannus a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu is-ddeddfwriaeth sy'n ategu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae pob un o'r prif feysydd lle mae rheoliadau'n cael eu datblygu yn cael cymorth trafodaethau grŵp technegol o randdeiliaid arbenigol. Mae eu cyngor wedi dylanwadu ar y cynigion sydd bellach yn cael eu cyflwyno gerbron y rhwydwaith rhanddeiliaid ehangach ar gyfer ymgynghoriad. Ar ôl ymgynghori, rydym yn bwriadu gweld yr holl reoliadau perthnasol ynghylch y gweithlu yn dod i rym erbyn mis Ebrill 2017, a'r holl reoliadau perthnasol ynghylch y gwasanaethau yn dod i rym erbyn mis Ebrill 2018.
Ddoe agorodd yr ymgynghoriad ynghylch rheoliadau’r cam cyntaf. Mae'r cam hwn yn cynnwys rhai o'r prosesau sy'n ategu'r system newydd o reoleiddio gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cofrestru fel darparwr gwasanaethau; newid statws cofrestru; adroddiadau blynyddol darparwyr gwasanaethau; a gwybodaeth i'w chynnwys mewn hysbysiadau i awdurdodau lleol. Mae cam 1 hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, yn arbennig ystyr 'gweithiwr gofal cymdeithasol'; cynnwys cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru, ffurf a chynnwys y rhestr o bobl i'w tynnu oddi ar y gofrestr, a'r ddyletswydd i sefydlu panel ac achosion gerbron paneli. Yn olaf, mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau eiriolaeth a'r gofynion ar gyfer cynhyrchu adroddiad blynyddol am arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am ychydig dros 12 wythnos er mwyn rhoi cymaint â phosib o gyfle i bobl ymateb a dweud eu barn wrth helpu i lunio'r fframwaith statudol hwn. I gefnogi'r ymgynghoriad, rydym hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid. Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal yn Wrecsam ar 2 Awst ac yng Nghaerdydd ar 7 Medi. Pwrpas y digwyddiadau hyn yw ennyn diddordeb rhanddeiliaid a sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o'r rheoliadau a'r testunau rydyn ni'n eu trafod, ynghyd â'r penderfyniadau a'n harweiniodd i'r fan hon, gyda'r nod o'u helpu i gynhyrchu eu hymatebion i'r ymgynghoriad. Mae gwahoddiadau i'r digwyddiadau'n cael eu dosbarthu ac rydym yn defnyddio rhwydweithiau rhanddeiliaid i gyrraedd at gymaint â phosib o bobl â diddordeb.
Pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a'r ymatebion wedi cael eu dadansoddi, byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig i'r rheoliadau ac yn eu diwygio yn unol â hynny yn ystod yr hydref. Fy mwriad yw i'r rheoliadau ynghylch y gweithlu a'r rhai sy'n ymwneud â'r gofynion i gynhyrchu adroddiad blynyddol am arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol gael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd y flwyddyn er mwyn dod i rym ym mis Ebrill 2017. Bydd y rheoliadau ynghylch gwasanaethau sy'n rhan o'r ymgynghoriad ar y cam cyntaf yn cael eu cyflwyno gyda'r ail gam o reoliadau erbyn diwedd 2017, er mwyn dod i rym ym mis Ebrill 2018, gan gwblhau'r fframwaith statudol ynghylch rheoleiddio gwasanaethau.
Disgwylir i'r Ddeddf gyfan gael ei rhoi ar waith erbyn mis Ebrill 2019. Mae Cyngor Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cydweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud eu rhan wrth baratoi i symud i’r system newydd a sefydlwyd dan Ddeddf 2016 a'u swyddogaethau newydd, pwysig yn hyn o beth.
Mae gofal cymdeithasol yn cyffwrdd bywydau pawb yng Nghymru. Mae'n bosibl y byddwn ni neu'n hanwyliaid angen defnyddio'r gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio rhyw bryd. Felly mae'n bwysig i ni gydweithio gyda'r rhanddeiliaid allweddol a dinasyddion Cymru i sicrhau system gadarn ar gyfer rheoleiddio ac arolygu. Rwy'n eich gwahodd i ddarllen y ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw, a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad.