Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Mae cynaliadwyedd y GIG yn dibynnu'n helaeth ar allu'r gweithlu i ymateb i heriau sy'n ei wynebu o boblogaeth sy'n heneiddio i ddatblygiadau technolegol a galw cynyddol am ofal iechyd.
Rhaid i’r hyblygrwydd y mae ei angen fod yn seiliedig ar amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel sy'n cael eu diweddaru’n gyson i sicrhau bod gan bob aelod o'r gweithlu'r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu.
Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi’n gyson yn addysg a hyfforddiant unigolion sy'n dymuno gweithio yn y GIG a bydd yn parhau i wneud hynny.
Rwyf wedi dweud o'r blaen y caiff y trefniadau tymor hwy ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ym maes pynciau sy’n ymwneud ag iechyd eu hystyried ochr yn ochr â’r argymhellion sy’n deillio o adolygiad Diamond. Dyma yw fy marn i o hyd.
Rydym yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn y GIG, a rhaid cydnabod hefyd y problemau yr ydym yn eu hwynebu o ran recriwtio a chadw staff. Er mwyn sicrhau bod gennym y gweithlu y mae arnom ei angen yng Nghymru, credaf ei bod yn bwysig bod unrhyw gynnydd yn y buddsoddiad a wneir mewn hyfforddi a datblygu’n cael ei gyplysu â chyfle i weithio yng Nghymru ac ymrwymiad i fuddsoddi yng Nghymru gan y rhai sy'n elwa.
Felly rwyf yn cadarnhau heddiw y bydd Bwrsariaeth y GIG ar gael i’r unigolion hynny sy'n dewis astudio rhaglen sy'n gysylltiedig ag iechyd yng Nghymru a hynny o fis Medi 2017. Y sail ar gyfer hyn fydd bod unigolion yn ymrwymo ymlaen llaw i achub y cyfle i weithio yng Nghymru ar ôl ennill cymhwyster am gyfnod o ddwy flynedd. Ni fydd unigolion nad ydynt yn teimlo y gallant ymrwymo i ddarparu gwasanaeth am ddwy flynedd yn gymwys i gael buddion Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Er hynny, bydd gan fyfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru fynediad i’r pecyn safonol i fyfyrwyr sydd ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.Bwriedir i’r drefn hon gael ei defnyddio ar gyfer carfan 2017/18 yn unig, tra caiff y pecyn cymorth tymor hwy ei ddatblygu.
Yn wahanol i’r drefn sy’n cael ei mabwysiadu yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau cadarnhaol i ddenu mwy o broffesiynolion iechyd ledled Cymru a ledled y DU i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw.