Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Mae Adolygiad o wyddoniaeth ‘The Welfare of Wild Animals in Travelling Circuses’ wedi ei gyhoeddi heddiw. Cafodd yr Adolygiad hwn ei gynnal gan yr Athro Steven Harris, yr 2il Arglwydd Dulverton ̶ Athro Coffa y Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bryste. Mae’n adolygiad cynhwysfawr ac yn un sydd i’w groesawu.
Mae’r Adolygiad wedi casglu ynghyd 764 o eitemau gwyddonol o bob cwr o’r byd. Maent, ar y cyfan, wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid o 2007 ymlaen, pan gafodd yr Adroddiad diwethaf ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU.
Un o ganlyniadau’r Adolygiad oedd nad dim ond anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn yr ‘ystyr draddodiadol’ o syrcas ‘big top’ oedd yn cael eu cynnwys; mae felly wedi ystyried yr holl dystiolaeth wyddonol berthnasol sydd ar gael ar gyfer Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid. Mae llawer mwy o’r mathau hyn o fusnesau, lle mae anifeiliaid yn gorfod gwneud amryfal weithgareddau mewn digwyddiadau â themâu, ysgolion, gweithgareddau corfforaethol, priodasau a phartïon.
Mae’r pwnc yn un cymhleth. Mae’r Adolygiad yn awgrymu bod “diffyg eglurder” ynghylch diffiniadau e.e. “anifail domestig”, “rhywogaethau gwyllt”, “syrcas deithiol”, “sŵ teithiol” a “perfformiad”. Mae hyn yn arwain at anghysondebau o ran pa ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ba rywogaeth ac o dan ba amgylchiadau.
O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddarparu opsiynau manwl imi ar y camau nesaf o ran defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, yn ogystal ag ystyriaethau eraill ar ddefnyddio pob math o anifail mewn arddangosfeydd symudol o anifeiliaid.
Bydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn edrych ar yr opsiynau hyn hefyd. Mae hyn yn gysylltiedig â bod yn berchennog cyfrifol ar anifail ac yn gysylltiedig hefyd â’r safonau a ddisgwylir er mwyn sicrhau nad oes perygl i les anifail. Mae cydweithio i greu canlyniadau cynaliadwy hefyd yn un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Adolygiad i’w weld ar y we.
Byddaf yn mynd ati’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau.
Notes
The Welfare of Wild Animals in Travelling Circuses’ review was carried out by Professor Steven Harris, the 2nd Lord Dulverton Memorial Professor of Environmental Sciences at Bristol University. The review commended in November 2015 and the final document was received shortly before the recent National Assembly elections.