Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Ers sefydlu’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, rwyf wedi cynnal cyfres o drafodaethau ynghylch ehangu’r aelodaeth i sicrhau cynrychiolaeth ar draws y sectorau.
Er ei bod yn bwysig cadw nifer aelodau’r tasglu yn fach er hwylustod, mae’n hollbwysig bod ganddynt sgiliau a phrofiadau o bob math.
Rwy’n falch, felly, o gael cyhoeddi y bydd Jocelyn Davies, cyn-Ddirprwy Weinidog Tai ac Adfywio Plaid Cymru yn ymuno â’r tasglu. Bydd Jocelyn yn mynd i gyfarfod nesaf y tasglu, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 28 Tachwedd.
Bydd Jocelyn yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a brwdfrydedd i’r tasglu. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi fel rhan o’r tasglu.