Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Dyma drydedd flwyddyn y trefniadau cynllunio yn dilyn cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Roedd Fframwaith Cynllunio GIG Cymru yn nodi dull newydd o fynd ati i gynllunio yng ngwasanaeth iechyd Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ddangos sut y caiff adnoddau eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i wneud y canlynol:
- Mynd i’r afael â meysydd o angen o ran iechyd y boblogaeth, a gwella canlyniadau iechyd
- Gwella ansawdd gofal
- Sicrhau’r gwerth gorau o adnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r trefniadau cynllunio dros y 12 mis diwethaf i adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o ddwy flynedd gyntaf y drefn gynllunio newydd. Ni chaiff cynllun ei gymeradwyo oni bai bod proses gadarn o graffu a chymeradwyo wedi’i chynnal ar lefel bwrdd ac fy mod innau, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn fodlon bod y cynllun yn diwallu’r gofynion a bennwyd yn y fframwaith.
Nid yw cymeradwyo cynllun yn golygu nad yw bwrdd iechyd neu fwrdd ymddiriedolaeth y GIG yn atebol am y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Nid yw ychwaith yn rhagfarnu canlyniad unrhyw broses briodol y mae ei hangen i roi’r cynllun ar waith. Er enghraifft, rhaid i unrhyw waith i ad-drefnu gwasanaethau gael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth ac â’n canllawiau cyfredol, a bydd gofyn i unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf ddilyn y broses arferol ar gyfer cymeradwyo achosion busnes.
Yn dilyn proses graffu drylwyr ar gynlluniau tymor canolig integredig 2016-19, rwyf wedi cymeradwyo’r chwe sefydliad canlynol: Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaethau GIG Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Rwyf wedi gosod telerau atebolrwydd heriol i sicrhau ein bod yn parhau i ysgogi gwelliant cyflym trwy'r gwasanaeth iechyd, ac osgoi hunanfodlonrwydd mewn unrhyw sefydliad. Bydd perfformiad y sefydliadau hyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd yn ystod y flwyddyn.
Dyma'r flwyddyn gyntaf y cafodd cynllun Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei gymeradwyo, ac mae'n adlewyrchu'r gwelliannau sydd wedi digwydd yn yr Ymddiriedolaeth hon, gyda chefnogaeth y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bydd Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu nifer o heriau sy'n ymwneud â gwasanaethau a pherfformiad, sy’n golygu bod gofyn iddynt gael cymorth parhaus. Bydd datblygu cynllun blwyddyn sy’n glir a chadarn yn rhan o’r broses hon, a bydd yn digwydd law yn llaw â gwaith y Mesurau Arbennig.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau parhaus sy'n ymwneud â gwasanaethau, strategaethau a chyllid. Bydd y bwrdd iechyd yn llunio cynllun blwyddyn a fydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar feysydd â blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu cymorth wrth iddynt ddatblygu a gweithredu'r cynllun hwn, gan barhau i weithio ar ddatblygu cynllun tair blynedd derbyniol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi gallu llunio cynllun tymor canolig integredig sy'n cyflawni gofynion gwasanaethau a chydbwysedd ar draws tair blynedd y cynllun. Rwy’n cydnabod bod hyn yn siom i sefydliad sydd wedi gweithio’n galed i greu cynllun i’w gymeradwyo, ac sydd â dyhead clir i sicrhau gwelliannau. Fodd bynnag, mae pryderon penodol ynghylch perfformiad, yn enwedig o ran gofal heb ei drefnu a gwasanaethau canser. Mae'r sefydliad wrthi’n llunio cynllun blwyddyn sy'n canolbwyntio ar gyflawni'n well ar draws nifer o feysydd perfformiad. Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i’w cynorthwyo yn eu huchelgais i sicrhau cymeradwyaeth tair blynedd ar gyfer 2017/18.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae Caerdydd a'r Fro wedi gofyn am ragor o amser i gwblhau eu cynllun tair blynedd. Rwyf felly wedi cytuno â’r Cadeirydd y byddaf yn gohirio fy mhenderfyniad am eu cynllun tan 8 Gorffennaf, er mwyn i’r sefydliad gael amser i roi’r wedd derfynol ar rai materion yn ymwneud â’u cynllun ariannol. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddarparu rhagor o gyngor ar ôl y dyddiad hwnnw.
Mae’r newidiadau eleni yn dangos pa mor llym yw'r broses gymeradwyo, a'i bod yn ofynnol i sefydliadau fodloni eu hamodau cymeradwyo yn barhaus trwy gydol y cylch treigl tair blynedd.
Bydd pob un o'r tri sefydliad nad yw eu cynlluniau wedi’u cymeradwyo yn cytuno ar gynllun blwyddyn sy'n adlewyrchu'r canlyniadau allweddol ar gyfer eleni a'r cerrig milltir ar gyfer datblygu ymhellach, gyda'r bwriad o gyflawni cynlluniau tymor canolig derbyniol yn 2017/18.
Mae'r cynlluniau tymor canolig integredig 3 blynedd yn ddatganiadau hanfodol o fwriad strategol sefydliadau'r GIG, a'r hyn y maent yn bwriadu ei gyflawni. Mae'n rhaid i’r broses gymeradwyo ar gyfer cynlluniau mor bwysig fod yn llym. Rwy'n disgwyl i Fyrddau sicrhau bod eu sefydliadau'n bodloni amodau cymeradwyo eu cynlluniau yn barhaus, yn ogystal â'r ymrwymiadau sydd wedi'u nodi yn eu cynlluniau tymor canolig integredig. Lle nad yw Byrddau'n gallu cyflawni cynlluniau 3 blynedd cymeradwy, bydd fy swyddogion yn ystyried trefniadau priodol i'w cefnogi.