Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Roedd yr adolygiad annibynnol yn 2014 ar y gofal ar gyfer pobl hŷn ac eiddil yn Ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg yn codi sawl pryder ynghylch ansawdd y gofal ar rai o wardiau'r ysbytai hyn ynghyd â rhai gweithdrefnau clinigol a rheoli. Cadarnhaodd yr adolygiad dilynol yn 2015 fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran yr 14 o argymhellion ac, yn bwysicach oll, y gellid sicrhau'r cyhoedd bellach bod y gofal ar gyfer pobl hŷn ac eiddil wedi gwella. Nododd yr adolygwyr rai meysydd lle'r oedd angen cynnydd pellach. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda'r gymuned leol a'i staff ac wedi gwrando arnynt er mwyn mynd i'r afael â’r meysydd hyn a sicrhau gwelliannau ar draws y Bwrdd.
Er enghraifft mae fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad wedi’i ddatblygu ar y cyd â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, yn ogystal â sefydlu system lle gellir lleisio pryderon yn ddienw sy’n sicrhau y bydd camau'n cael eu cymryd yn brydlon. Mae’r gwaith o ymgysylltu â staff a'u cefnogi yn well erbyn hyn a hynny ar draws nifer o ddisgyblaethau. Er enghraifft mae gan y fferyllwyr rôl gryfach wrth gefnogi staff nyrsio a staff meddygol mewn perthynas â rheoli meddyginiaeth. Mae hyfforddiant staff hefyd yn cael mwy o bwyslais mewn meysydd allweddol gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o ddementia. Yn ogystal, craffwyd ar drefniadau arwain a llywodraethu a gwnaed gwelliannau yn sgil hyn, gan gynnwys adolygu swyddogaethau'r pwyllgorau perthnasol er mwyn sicrhau bod yr hyn gaiff ei adrodd o'r wardiau i'r byrddau’n rhan amlwg o'u cylch gorchwyl. Dim ond cip cyflym ar y gwaith sydd wedi’i wneud wrth roi argymhellion Ymddiried mewn Gofal ar waith yw hyn. Mae rhagor o fanylion i'w gweld ar wefan y Bwrdd Iechyd.
Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda thîm gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gydol y broses i fonitro'r gwelliannau yn sgil adroddiad Ymddiried mewn Gofal. Rwyf yn fodlon bod cynnydd digonol wedi'i wneud o ran yr argymhellion hyn.
Wrth symud ymlaen, mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen iddo barhau i weithio ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni, a'r ffordd orau i hyn ddigwydd yw drwy drefniadau monitro prif ffrwd y Bwrdd ei hun.
Yn fwy cyffredinol ac yn bwysicach hefyd, mae GIG Cymru wedi dysgu o'r profiad hwn. Mae llawer o waith wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at amryw o welliannau. Roedd cynnal y rhaglen o wiriadau dirybudd annibynnol yn holl ysbytai cyffredinol Cymru'n gyfle i nodi nifer o welliannau i'r system yn ehangach. Cofnodwyd hyn yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Medi 2015 Gwersi yn sgil Ymddiried mewn Gofal – Blwyddyn yn Ddiweddarach, a wnaeth argymhellion pellach ar lefel genedlaethol. Mae’r argymhellion hynny’n parhau i ddylanwadu ar ein dull o ddarparu’r gofal o ansawdd uchel y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl.