Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, 7 Tachwedd 2016, cyflwynais Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (“y Bil”) a’i Femorandwm Esboniadol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Bil yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain ym maes iechyd y cyhoedd a defnyddio deddfwriaeth fel ffordd o wella a diogelu iechyd pobl Cymru ymhellach. Mae’n eistedd ochr yn ochr â gwasanaethau, polisïau, rhaglenni ac ymgyrchoedd, yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag achosion afiechyd, fel rhan o agenda gynhwysfawr ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Nod y Bil yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ymarferol mewn amryw o feysydd penodol, er budd grwpiau penodol yn ogystal â chymunedau cyfan. Mae’n cynnwys y cynigion gwreiddiol a gafodd eu hystyried gan y Cynulliad blaenorol heb y darpariaethau yn cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae’r Bil yn elwa hefyd o’r ffaith ei fod eisoes wedi bod yn destun craffu trylwyr ac mae’n cynnwys y newidiadau a gafodd eu gwneud i’w wella yn ystod y camau diwygio gwreiddiol.
Tybaco a chynhyrchion nicotin
Mae’r Bil yn ail-ddatgan y cyfyngiadau presennol ar smygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig ac mae’n ymestyn y cyfyngiadau hynny i gynnwys tir ysgolion, tir ysbytai a mannau chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer gwneud mangreoedd eraill yn ddi-fwg yn y dyfodol o dan amgylchiadau penodol.
Bydd y Bil hefyd yn creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, a fydd yn helpu asiantaethau gorfodi i gynnal gwaharddiadau ar eu gwerthu ac atal plant a phobl ifanc rhag cael mynediad atynt. Bydd hefyd yn ei gwneud yn drosedd i roi tybaco neu gynhyrchion nicotin, gan wybod hynny, i blant sydd dan 18 oed er mwyn amddiffyn plant ymhellach rhag niwed.
Gweithdrefnau arbennig
Mae’r Bil yn creu system drwyddedu orfodol i ymarferwyr sy’n ymgymryd â gweithdrefnau arbennig – sef aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu pobl sy’n dewis cael y gweithdrefnau hyn o’r niwed a all ddigwydd os na fyddant yn cael eu cynnal yn iawn.
Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff
Bydd y Bil yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn o dan 16 oed, gan gynnwys tyllau yn y tafod. Nod y cam pwysig hwn yw amddiffyn plant a phobl ifanc ymhellach rhag niwed posibl a rhag cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd lle gallent fod yn agored i niwed.
Asesu’r Effaith ar Iechyd
Yn dilyn newid a wnaed yn ystod y broses graffu flaenorol, yn unol â’r Bil, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau am y defnydd o asesiadau effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus mewn amgylchiadau penodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr effeithiau posibl llawn ar iechyd corfforol a meddwl yn cael eu hystyried cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud.
Gwasanaethau fferyllol
Mae’r Bil yn gwneud newidiadau pwysig i’r ffordd mae gwasanaethau fferyllol yn cael eu cynllunio, drwy ddefnyddio asesiadau o anghenion fferyllol. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i sicrhau bod y system yn diwallu anghenion iechyd y cyhoedd ehangach cymunedau yn well.
Darparu toiledau
Mae’r Bil yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi strategaethau lleol ar gyfer toiledau yn eu hardaloedd. Y nod yw gwella’r ffordd y mae darpariaeth yn cael ei chynllunio a’r mynediad at doiledau sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio. Bydd gwneud hyn o fudd i gymunedau cyfan yn ogystal â grwpiau fel pobl hŷn.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y Bil i’r Cynulliad yfory, 8 Tachwedd 2016.
Mae manylion y Bil ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru - www.cynulliad.cymru