Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Lansiwyd adolygiad annibynnol o wasanaethau cardiaidd i blant ym Mryste yn dilyn pryderon nifer o deuluoedd am y driniaeth a'r gofal yr oedd eu plant yn derbyn. Cafodd ei sefydlu yn 2014 gan Gyfarwyddwr Meddygol GIG Lloegr i gynnal adolygiad trylwyr o wasanaethau cardiaidd i blant yn yr ysbyty a'i glinigau allgymorth, er mwyn dysgu gwersi a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu safonau gofal cenedlaethol. Arweiniwyd yr adolygiad gan Eleanor Grey QC, bargyfreithiwr annibynnol a oedd gynt yn Gwnsler i'r Adolygiad Cyhoeddus o lawdriniaethau'r galon ar blant yn Ysbyty Brenhinol Bryste rhwng 1984 a 1995.
Mae tîm yr Adolygiad wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw (30 Mehefin). Gellir gweld copi yn: http://www.thebristolreview.co.uk/news.html. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion y byddwn ni yn eu hystyried yn ofalus dros yr wythnosau nesaf.
Nid yw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer clefyd y galon, a gyhoeddwyd yn 2013, yn cynnwys gwasanaethau i blant. Mae'n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd ac fe fydd y cynllun diwygiedig yn cynnwys rhan am wasanaethau cardiaidd i blant. Byddwn yn sicrhau, lle bynnag y bo'n briodol, bod unrhyw argymhellion perthnasol o'r adolygiad hwn yn cael eu cynnwys.
Rwy'n deall yn iawn fod y cyfnod hwn yn un anodd i'r teuluoedd o Gymru sydd wedi'i heffeithio gan yr adroddiad. Rydw i am sicrhau'r teuluoedd hynny y byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r GIG yng Nghymru i wneud yn siŵr bod unrhyw wersi perthnasol yn cael eu dysgu a'u rhannu.