Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 5 Chwefror eleni, cyhoeddodd y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad yn dweud bod trefniadau ar gyfer y tymor hir i gefnogi'r rhai a arferai dderbyn cymorth Cronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru (y Gronfa) yn cael eu hystyried. Mae fy nghyhoeddiad heddiw'n nodi beth fydd y trefniadau hynny a sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith o 1 Ebrill ymlaen y flwyddyn nesaf.
Ers i Lywodraeth y DU gau’r Gronfa ar 30 Mehefin y llynedd, sicrhaodd y Gweinidogion bod y cyn-dderbynwyr yn parhau i dderbyn cymorth yn y tymor byr ar ffurf Grant Byw'n Annibynnol Cymru (y Grant) drwy law’r awdurdodau lleol. Drwy wneud hyn, rydyn ni wedi gallu rhoi cymorth i bobl anabl ysgwyddo'r costau ychwanegol o fyw'n annibynnol yn y gymuned, a hynny i’r un graddau ag yr oeddent o dan y Gronfa.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn trosglwyddo swm o £27 miliwn y flwyddyn i ni er mwyn ysgwyddo'r gost o ddarparu cymorth i gyn-dderbynwyr y Gronfa. Fodd bynnag, golyga hyn nad yw'n bosib i ni addasu swm yr arian sydd ar gael os yw anghenion unigolyn yn newid, os yw costau’r cymorth y maent ei angen yn newid, neu i weithredu unrhyw gynllun i roi cymorth iddynt. Byddai'n rhaid i'r arian ar gyfer sefyllfa o’r fath hefyd ddod o'r cyllid hwn a hynny ar draul y gofal i bawb arall. Yn sgil hyn, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid i ddatblygu opsiynau ar gyfer cymorth yn y tymor hir. Y tri opsiwn oedd:
- parhau â'r trefniadau presennol;
- dod i drefniant â thrydydd parti i barhau i dalu derbynwyr yng Nghymru;
- trosglwyddo'r cyfrifoldeb a’r cyllid i awdurdodau lleol Cymru dros gyfnod pontio o ddwy flynedd fel eu bod yn y pen draw yn cynnig y cymorth drwy eu darpariaeth gofal cymdeithasol arferol.
Rwyf bellach wedi ystyried manteision yr holl opsiynau yn eu cyfanrwydd. Drwy wneud hyn, daeth yn amlwg bod dau brif anfantais i gynnig cymorth sy’n cael ei weithredu y tu allan i’r ddarpariaeth arferol o ofal cymdeithasol. Yn gyntaf, byddai'n parhau â'r anghydraddoldeb lle mae rhai unigolion anabl yn cael cymorth gan eu hawdurdod lleol, tra bod eraill yn cael taliadau penodol i ysgwyddo baich y gost o fyw'n annibynnol ar ben y cymorth y maent yn ei gael gan yr awdurdod lleol. Byddai hyn yn parhau i ddarparu cymorth i gyn-dderbynwyr y Gronfa mewn ffordd wahanol i’r gofal a’r cymorth sy’n cael ei roi i bobl anabl eraill yng Nghymru. Yn ail, byddai perygl i unrhyw opsiwn sy’n wahanol i’r ddarpariaeth arferol fod yn anodd i’w gynnal yn y tymor hir wrth i niferoedd cynllun y Gronfa, sydd bellach wedi cau, ostwng gydag amser, neu wrth i werth y taliadau y gellir fforddio eu rhoi o’r swm sefydlog a drosglwyddir gan Lywodraeth y DU ddod yn gynyddol annigonol ar gyfer darparu’r cymorth y mae derbynwyr ei angen.
O ganlyniad, rwyf wedi dod i gasgliad mai’r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen fyddai i’r awdurdodau lleol ddarparu cymorth i gyn-dderbynwyr y Gronfa yn y dyfodol drwy eu darpariaeth arferol o ofal cymdeithasol. Byddai hyn yn mynd i'r afael â'r mater o gydraddoldeb ac yr un pryd yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau cyfyngedig, gan sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cymorth i'r derbynwyr yn hytrach nag ar gostau sefydlu neu gweithredu unrhyw drefniadau newydd.
Bydd cyllid ar gyfer y Grant yn parhau ar ei ffurf bresennol yn 2017-18 i alluogi’r awdurdodau lleol i barhau â thaliadau’r derbynwyr ond bydd yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdodau lleol eu hunain o 2018-19 ymlaen. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr awdurdodau lleol yn cwrdd â'r derbynwyr, a’u cynrychiolwyr, i nodi’r canlyniadau y maent yn dymuno eu cyflawni ac i gytuno ar becyn cymorth sy'n cyfateb â hyn. Y bwriad yw sicrhau bod anghenion cymorth yr holl dderbynwyr yn cael eu diwallu drwy becyn gofal sy'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol erbyn 31 Mawrth 2019.
Rwyf yn sylweddoli y byddai rhai o’r derbynwyr wedi dymuno gweld penderfyniad gwahanol. Rwyf hefyd yn cydnabod bod yr opsiwn hwn yn golygu y bydd y trefniadau presennol yn parhau am gyfnod ychydig yn hirach na’r disgwyl. Bydd y cyfnod pontio fodd bynnag, yn gyfle i sicrhau bod y dull o weithredu gofal cymdeithasol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dod yn rhan annatod o ddarpariaeth yr awdurdodau lleol. Mae’r mwyafrif helaeth o dderbynwyr eisoes yn derbyn elfen o ofal a chymorth gan eu hawdurdod lleol. Bydd y trefniadau newydd yn rhoi digon o amser i'r awdurdodau lleol a’r derbynwyr gynllunio a chytuno ar becynnau cymorth sy’n adlewyrchu’r canlyniadau y mae’r derbynwyr yn dymuno eu cyflawni ac sy’n cynnwys camau i’w gwireddu.
Bydd y dull hwn o gyflwyno’r cymorth ar gyfer y dyfodol yn raddol yn rhoi amser i’r derbynwyr ddod i gytundeb ac addasu ar gyfer y newidiadau yn ystod y cyfnod pontio fel eu bod yn barod ar eu cyfer. Dim ond pan fydd y cymorth y mae’r derbynwyr ei angen ar gael y byddant yn symud i’r trefniadau newydd. Gallai hyn ddigwydd naill ai yn ystod blwyddyn gyntaf y cyfnod pontio neu’r ail. Bydd y derbynwyr yn parhau i dderbyn eu taliadau gan eu hawdurdod lleol nes bod eu pecyn cymorth ar gael.
Bydd swyddogion yn rhoi gwybod i'r derbynwyr a'r awdurdodau lleol am fy mhenderfyniad ac yn gweithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar y manylion o ran sut y dylai’r symud o'r Grant i gael cymorth gan yr awdurdod lleol dros y cyfnod hwn o ddwy flynedd weithio. Bydd hyn yn sicrhau bod y trefniadau newydd yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2017.
Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael gwybod am unrhyw gynnydd pellach.