Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Bydd effeithiau canlyniad y refferendwm ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn dirgrynu ar draws y wlad am flynyddoedd i ddod. Mae ansicrwydd wrth inni ddisgwyl i Brif Weinidog nesa’r DU wasgu’r botwm i gychwyn y trafodaethau am ein hamodau gadael a’n perthynas yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd. Mae effaith y canlyniad ar bortffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn neilltuol o drwm. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw diogelu buddiannau Cymru, ac mae’r Prif Weinidog wedi nodi chwe maes y mae am i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth iddyn nhw.
Mae amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd anifeiliaid, gwarchod yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth wedi’u cysylltu’n glos â pholisïau ac â deddfwriaeth a chyllid Ewropeaidd. Ar 4 Gorffennaf, cefais inne a’r Prif Weinidog gwrdd â rhanddeiliaid i drafod beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn y trafodaethau ac ar gyfer y polisïau a ddylai ymddangos wedi i’r DU adael yr UE. Mae’r setliad datganoli wedi rhoi rheolaeth arwyddocaol inni ar ein polisïau a’n gwaith yn y meysydd hyn a rhaid inni fwrw ati i greu atebion ar gyfer sefyllfa Cymru.
Mae llawer o randdeiliaid yn awyddus inni dawelu eu meddyliau o ran cyllid. Roedd y Polisi Amaethyddol Cyffredin am ddod â €2.6 biliwn i Gymru ar gyfer cyfnod rhaglen 2014-2020 a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop €14.7 miliwn arall. Dywedodd y Prif Weinidog yn glir y bydd yn pwyso yn y trafodaethau am weld holl brif raglenni’r UE yn parhau tan ddiwedd 2020, ac am fynediad at farchnadoedd yr UE.
Mae Colofn 1 y PAC (taliadau uniongyrchol i ffermwyr a rheolwyr tir) yn gynllun blynyddol a bydd yn parhau bob blwyddyn tan y bydd y DU yn gadael yn derfynol. Fe gawn wybod y dyddiad gadael cyn iddo ddigwydd a rhoddaf wybod i’r rhanddeiliaid er mwyn iddyn nhw gael amser i gynllunio.
Mae’r Rhaglen Datblygu Gwledig (Colofn 2) yn fater mwy cymhleth. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i Brif Weinidog y DU am addewid y caiff arian cyfatebol ei roi i Lywodraeth Cymru bob tro y daw arian Ewropeaidd i ben, hynny er mwyn i’r Rhaglen allu parhau. Hyd yma, nid yw wedi cael addewid o’r fath, felly mae ansicrwydd ynghylch ein ffrydiau ariannu yn y dyfodol. Gall unrhyw un sydd â chontract fod yn dawel ei feddwl y gwnaiff Llywodraeth Cymru anrhydeddu’r contract hwnnw. Ein cyngor ni yw y dylai unrhyw un sy’n gwneud cais i gynllun sydd heb ddod i ben fwrw ymlaen i wneud cais. Os bydd eu prosiect yn debygol o allu cael ei gynnal mewn cyfnod cymharol fyr, yna byddwn yn fwy hyderus o fedru ei ariannu. Ond os ydy’r prosiect am bara tan wedi 2018, yna rhaid inni ohirio’r penderfyniad tan y gallwn fod yn siŵr bod yna arian i’w ariannu. Mae hyn yn effeithio ar ymgeiswyr Glastir 2017, gan y bydd eu contractau’n para tan 2021. Rydym yn arafu’r gwaith ar hyn, ond cyn gynted ag y cawn ni fwy o wybodaeth gan Lywodraeth y DU, caiff ein rhanddeiliaid wybod.
Rhaid imi bwysleisio ein bod yn dal i fod yn yr UE a bod yr holl reolau, rheoliadau a chosbau oedd yn berthnasol ar 23 Mehefin yn berthnasol heddiw ac yn parhau’n berthnasol i’r dyfodol rhagweladwy.
Mae’r broses o baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gymhleth, ac nid oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom. Rydym wedi cael addewid gan Brif Weinidog y DU y caiff Llywodraeth Cymru fod yn rhan o’r trafodaethau ond bydd angen gwybodaeth arnom i allu cymryd rhan lawn yn y broses. Rydyn ni’n hen gyfarwydd â chynrychioli buddiannau’n rhanddeiliaid yn Ewrop a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Y cyfarfod ddydd Llun oedd y cyntaf mewn cyfres y byddaf yn ei chynnal ar draws y sectorau i glywed gan randdeiliaid a’u cynrychiolwyr am eu pryderon a’u syniadau. Er na ddylem ddiystyru difrifoldeb y sefyllfa, daw â chyfleoedd inni edrych yn sylfaenol ar sut a pham rydyn ni’n gwneud yr hyn a wnawn. Roedd y rhanddeiliaid wedi dangos parodrwydd mawr i weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau positif a’r cydweithio hwn fydd ein byrdwn wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol newydd. Cytunon ni i gynnal cyfarfod pellach yn y Sioe Fawr. Gwelwyd ymrwymiad mawr yn yr ystafell i ddatblygu polisïau gyda’n gilydd a fydd yn dod â’r gorau i Gymru yn y dyfodol. Rwyf am adeiladu ar y sylfaen bositif honno.