Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Aelodau'r Cynulliad am wybod fy mod yn rhoi sêl fy mendith heddiw i sefydlu corff newydd i oruchwylio gwaith cynllunio’r gweithlu yn strategol, cynllunio’r gweithlu a chomisiynu addysg ar gyfer GIG Cymru.

Mae addysg a hyfforddiant yn hanfodol i sicrhau bod y gweithlu gofal iechyd yn addas at ei ddiben, yn gynaliadwy ac yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad cywir i ateb yr heriau sydd o’n blaenau yn awr ac yn y dyfodol.

Ar 14 Ebrill 2015, cyhoeddwyd yr adolygiad o Fuddsoddi yn Addysg Gweithwyr Iechyd Proffesiynol (HPEI), dan arweiniad Mr Mel Evans OBE. Comisiynwyd yr adolygiad i ystyried a oedd y trefniadau presennol ar gyfer buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig y gwerth gorau i Gymru. Gwnaeth yr adolygiad amrywiaeth eang o argymhellion, gan gynnwys sefydlu un corff newydd i Gymru, sy’n dwyn ynghyd swyddogaethau cynllunio’r gweithlu yn strategol, datblygu a chomisiynu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol.

Er y cytunwyd ar yr argymhellion, comisiynwyd gwaith pellach i gwmpasu’r model newydd yn briodol cyn penderfynu’n derfynol ar amserlenni ar gyfer ei roi ar waith. Mae'r gwaith ychwanegol hwn, a wnaed gan yr Athro Robin Williams CBE, FRS, bellach wedi dod i ben. 

Hoffwn ddiolch i Robin am fwrw ymlaen â’r gwaith hwn a chynhyrchu’r adroddiad defnyddiol hwn sy'n gosod cyfeiriad clir ar gyfer trefniadau’r dyfodol. Hoffwn achub y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r Athro Donna Mead OBE, Dr Alun Rees a'r Athro Ceri Phillips, am gefnogi Robin fel cynghorwyr arbenigol.

Mae'r adroddiad yn cynnig "corff hyd braich" newydd gyda bwrdd sy’n atebol i Weinidogion Cymru, yn gweithio o fewn fframwaith cyffredinol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cynnig bod aelodau'r bwrdd yn cael eu penodi ar sail eu harbenigedd mewn meysydd penodol megis deall y newid mewn anghenion iechyd, cynllunio’r gweithlu, dylunio addysgol, sicrhau ansawdd a thegwch. Y teitl gweithio arfaethedig ar y corff newydd hwn yw Addysg Iechyd Cymru (AIC).

Rwyf wedi ystyried adroddiad yr Athro Williams yn ofalus ac rwyf yn hyderus mai dyma’r dull gweithredu cywir i Gymru ac rwyf yn bwriadu rhoi trefniadau ar waith i ddechrau ar y gwaith manwl y mae ei angen i gyflawni'r newid hwn.

Bydd chwalu’r ffiniau rhwng cynllunio meddygol a chynllunio anfeddygol, dylunio’r gweithlu a chomisiynu yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer dulliau gweithredu proffesiynol amlasiantaethol. Mae angen mynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig yn genedlaethol i sicrhau canolbwynt ar ehangu mynediad, codi ymwybyddiaeth am fwy na 300 o wahanol rolau ac agor llwybrau gyrfa mwy hyblyg. Bydd mentrau lleol yn ein cefnogi yn hyn o beth.
Cafwyd ymgysylltu helaeth fel rhan o'r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn. Rwyf  am i hyn barhau, a dyna pam y byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad byr, yn ystod yr wythnosau nesaf, sy’n anelu at ymgysylltu â sefydliadau ac unigolion ynghylch y ffordd ymlaen. Rwyf yn disgwyl i Addysg Iechyd Cymru ddod i rym o 1 Ebrill 2018.

Byddwn yn ysgrifennu at y cyrff sy’n cael eu heffeithio heddiw i gadarnhau sut rwyf yn disgwyl sicrhau cyfathrebu, cyfranogiad a chymorth priodol yn ystod y cyfnod pontio ar gyfer y newid hwn ac wrth ei roi ar waith.