Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio cynigion i gael gwared â Rheoliad 7 o Reoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth 2003. Mae Rheoliad 7 yn gwahardd busnesau cyflogaeth rhag darparu gweithwyr asiantaethau i gyflawni’r dyletswyddau a gyflawnir fel rheol gan gyflogai mewn sefydliad sy’n cymryd rhan mewn streic neu fath arall o weithredu diwydiannol, neu i weithio yn lle cyflogai sy’n cyflawni dyletswyddau cyflogai sy’n cymryd rhan mewn streic neu fath arall o weithredu diwydiannol. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad hyd yma.
Fel yn achos darpariaethau Deddf Undebau Llafur 2016, rwyf o’r farn y byddai cael gwared â Rheoliad 7 yn effeithio’n andwyol ar y cydbwysedd pŵer yn y berthynas gyflogaeth ac y byddai, felly, yn niweidiol i’n partneriaeth gymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Byddai’r cynnig rydym yn ymgynghori yn ei gylch yn golygu bod y gyfraith bresennol, i wahardd y defnydd o weithwyr asiantaethau yn yr amgylchiadau hyn, yn parhau.
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion ynghylch y defnydd y caiff awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli ei wneud o weithwyr asiantaethau i weithio yn lle’r rheini sydd ar streic neu sy’n gweithredu’n ddiwydiannol mewn ffordd arall.
Defnyddir yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i lywio’r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn
a bydd yn cau ar 6 Rhagfyr 2016.