Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2017 ar gyfer ymgynghoriad.
Mae WelTAG 2017 yn diweddaru WelTAG 2008, a gyhoeddwyd i roi arweiniad i ddatblygu, arfarnu a gwerthuso prosiectau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Cafodd WelTAG 2017 ei ysgrifennu i adlewyrchu’r arfer gorau presennol yn y maes hwn ac i gydfynd â Model Busnes Pum Achos sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer achosion busnes sy’n cydfynd â cheisiadau am gyllid gan y sector cyhoeddus. Manteisiwyd ar y cyfle i gwtogi’r arweiniad ac i gynnwys egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bwriad y prif newidiadau yr ydym yn eu cynnig yw:
- Adlewyrchu arfer gorau presennol ym maes arfarnu trafnidiaeth, tra’n cwtogi’r ddogfen a lleihau’r angen am ddiweddariadau;
- Cyfuno WelTAG a’r Model Busnes Pum Achos fel bod penderfyniadau am fuddsoddiadau busnes yn ystyried yr achos busnes llawn ar gyfer yr ymyrriad; a
- Cynnwys egwyddor datblygu cynaliadwy a chwmpasu amcanion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.