Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi 2015, cafodd Prifysgol Fetropolitan Manceinion ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil wreiddiol ac ymchwil eilaidd bwysig ar y berthynas rhwng telerau ac amodau gweithwyr cymdeithasol cartref ac ansawdd y gofal a ddarperir. Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod yna gyswllt clir a diamheuol.

O ganlyniad i ganfyddiadau'r ymchwil, aeth Llywodraeth Cymru ati i ymgynghori ar gyfres o gynigion mewn perthynas â'r materion hyn. Mae'r cynigion hynny wedi'u hamlinellu yn Dogfen ymgynghori ynghylch y gweithlu gofal cartref - Gwella’r gwaith o recriwtio a chadw gweithwyr Gofal Cartref yng Nghymru. Roedd y cynigion yn cynnwys materion yn ymwneud â chontractau dim oriau, cydymffurfio â’r lleiafswm cyflog cenedlaethol, amser teithio, hyd galwadau a’r arfer o fyrhau galwadau’n fwriadol yn sgil prinder amser, strwythur gyrfa, datblygu a hyfforddi, statws galwedigaethol ac iechyd a diogelwch.

Daeth 108 ymateb i law gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, a heddiw rwy'n cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw. Gellir gweld crynodeb o’r ymatebion yma: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/y-gweithlu-gofal-cartref

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod gofal cymdeithasol yn sector strategol bwysig. O fewn hynny, mae’r gweithlu gofal cartref yn chwarae rhan hanfodol er mwyn helpu pobl i aros yn eu cartrefi a bod yn annibynnol am gyhyd â phosib. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd recriwtio i’r proffesiwn hwn, a’i bod yn anodd cadw staff. Y neges allweddol o’r ymgynghoriad hwn yw bod angen gweithredu mewn sawl ffordd i wella cyfraddau recriwtio a chadw, gan gynnwys atgyfnerthu cydymffurfiaeth â’r gofynion presennol fel y lleiafswm cyflog cenedlaethol, cynyddu tryloywder prosesau – er enghraifft gwahaniaethu’n glir rhwng amser teithio ac amser galwadau – a pharhau i fynd ar ôl cyfleoedd i sefydlu gofal cartref fel gyrfa ddeniadol, werthfawr, tymor hir sy’n cael ei chefnogi.  

Mae'r dystiolaeth o'r ymgynghoriad hwn hefyd yn codi rhai materion dilys ac ymarferol o ran y ffordd ymlaen y bydd rhaid inni eu hystyried, megis y defnydd o gontractau dim oriau, pa lefel o gymwysterau sy’n briodol ar gyfer cofrestru’r gweithlu a sut beth fyddai’r llwybr gyrfa. Mewn rhai achosion, megis mewn perthynas â chontractau dim oriau, cyfyngedig oedd yr ymatebion a ddaeth i law, a bydd rhaid inni barhau i gynnal trafodaethau â'r bobl sy'n cael eu heffeithio, fel gweithwyr, mudiadau sy’n eu cynrychioli a chyrff y cyflogwyr, er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.

Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda’r ymrwymiad i gymryd camau pellach i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Yn y lle cyntaf, rwy’n bwriadu cyflwyno rheoliadau dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) i’w gwneud yn ofynnol i’r holl ddarparwyr gyhoeddi nifer y gweithwyr sydd ganddynt ar gontractau dim oriau, fel ffordd o wella tryloywder drwy adrodd.  Yn ogystal â hyn, byddaf yn ymgynghori ynghylch opsiynau ar gyfer cymryd camau pellach ar gontractau dim oriau drwy reoliadau’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) y flwyddyn nesaf.

Rwyf wedi gofyn i Gyngor Gofal Cymru ystyried yr adroddiad hwn a'i ddefnyddio wrth ddatblygu ei strategaeth bum mlynedd bwysig ar gyfer gofal cartref yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn, sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno cynllun ar gyfer gwella gofal cymdeithasol a fydd yn cael ei arwain gan y sector, a disgwylir i'r Cyngor adrodd imi yn fuan.

Mae’r camau uchod mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn ategu’r gwaith rydym eisoes yn ei wneud i broffesiynoli’r gweithlu a chodi statws y swyddogaeth hon sydd mor hanfodol ond nad yw’n cael ei gwerthfawrogi ddigon. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n cael ei ffurfio o’r Cyngor Gofal, ac yn mynd i ddechrau gweithredu ym mis Ebrill gan ddefnyddio cyfuniad o swyddogaethau i gryfhau gwasanaethau a’r gweithlu sy’n eu darparu. Un o’r tasgau cyntaf fydd paratoi ar gyfer ehangu’r gofrestr o’r gweithlu i gynnwys gweithwyr gofal cartref yn 2020. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r gweithlu i gyrraedd y lefel berthnasol o gymhwyster gan ddefnyddio’r cyllid grant sylweddol ar gyfer datblygu’r gweithlu y mae’r llywodraeth wedi’i neilltuo i’r sector.