Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Uchelgais y Llywodraeth hon yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn unol â’n huchelgais, ac ar y cyd â Phlaid Cymru, rydym yn darparu £5m yn ychwanegol i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n fwy helaeth ac annog mwy o bobl i siarad yr iaith.
Mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi y bydd £3m o’r buddsoddiad newydd hwn yn cael ei ddyrannu i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn gwella a chynyddu darpariaeth Cymraeg yn y gweithle yng Nghymru.
Y prif ffocws fydd sicrhau bod cyfleoedd i unigolion wella neu ddysgu Cymraeg, yn y sector cyhoeddus yn y lle cyntaf, gan ganolbwyntio ar ddysgu dwys.
Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu cymorth ymarferol i gyrff gan eu rhoi mewn sefyllfa gwell i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Mae 80 o gyrff eisoes yn dod o dan y drefn safonau, a bydd hynny’n tyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Amcan canolog y safonau yw darparu mwy o wasanaethau Cymraeg i bobl Cymru, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny o safon. Mae gwella sgiliau Cymraeg presennol gweithwyr, ac annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg o’r newydd, yn angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y drefn safonau.
Fel y nodwyd yn y Strategaeth Iaith ddrafft, mae angen i ni gyrraedd sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn elfen hollol naturiol o bob agwedd ar fywyd bob dydd. Os ydym am wireddu hynny, mae galluogi pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith bob dydd yn holl bwysig, yn ogystal â sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i wasanaethau Cymraeg. Bydd y cynllun arloesol hwn yn ein galluogi i wneud cynnydd, ac rwy’n galw ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i gysylltu â’r Ganolfan Genedlaethol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth newydd.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Gymraeg a gyda’n gilydd, gallwn dyfu’r Gymraeg a chreu cenedl wirioneddol ddwyieithog.