Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Heddiw, rwy’n falch iawn o lansio’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2017.
Bydd WelTAG 2017 yn sicrhau fod pob cynllun trafnidiaeth yng Nghymru yn cefnogi ein gweledigaeth am Gymru lewyrchus a diogel, iach ac egnïol, uchelgeisiol ac yn dysgu, unedig a chysylltiedig.
Mae WelTAG 2017 yn disodli WelTAG 2008, fel y canllaw arfer gorau ar gyfer datblygu, arfarnu a gwerthuso prosiectau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Bydd WelTAG 2017 yn cyfuno arfer gorau ym maes arfarnu trafnidaieth gyda’r pum enghraifft o achosion busnes gwell, i sicrhau bod y buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn targedu mannau sy’n gweld cymaint o gyfraniad â phosib at lesiant Cymru. Ochr yn ochr â’r canllawiau craidd, mae WelTAG 2017 yn cynnwys nodiadau canllaw ategol sy’n rhoi cymorth a chyngor ychwanegol ar faterion o bwys. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu a’u diweddaru fel y bo angen.
Roedd yn bleser cydweithio’n agos â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau bod WelTAG 2017 yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a sicrhau bod cynlluniau trafnidiaeth yn cael eu datblygu gan ddefnyddio yr egwyddor datblygu cynaliadwy, gan wneud cymaint â phosib o gyfraniad at lesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Yn dilyn y lansiad hwn bydd fy swyddogion yn sefydlu Cymuned Arferion WelTAG, gyda gweithdai ac astudiaethau achos i gefnogi’r broses o newid i WelTAG 2017.