Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Hoffwn ddiweddaru Aelodau ar y broses o baratoi Rheoliadau i wneud Safonau’r Gymraeg ar gyfer cyrff yn y sector iechyd. Rwyf yn awyddus i weld cyrff yn symud o’r drefn Cynlluniau Iaith Gymraeg blaenorol i system safonau fel bod yna fframwaith cyfreithiol cryfach mewn lle ar gyfer yr iaith.
Rwyf wedi cael cyfle i ystyried y polisi tu ôl i’r safonau ar gyfer y sector iechyd. Rwyf yn cadarnhau y byddaf yn gosod Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn y flwyddyn newydd. Bydd y Rheoliadau yma yn pennu safonau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Bydd y Rheoliadau hefyd yn ychwanegu Gofal Cymdeithasol Cymru i’r rhestr o gyrff sy’n agored i orfod cydymffurfio gyda Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.